Eich llesiant

Mae sylwi ar yr hyn sy'n digwydd yn ein meddyliau a'n cyrff yn sgìl bwysig ar gyfer gwella a chynnal ein hiechyd meddwl. Dylen ni i gyd dreulio amser yn ystyried ein meddyliau a'n teimladau yn rheolaidd.



I'ch helpu chi i aros yn gadarnhaol ac yn frwdfrydig, rydyn ni wedi creu amrywiaeth o flogiau, erthyglau a chanllawiau i hybu ffordd emosiynol iach o fynd ati i adolygu a sefyll arholiadau. Mae'r rhain yn llawn awgrymiadau i'ch cefnogi chi – cyn, yn ystod ac ar ôl y cyfnod arholiadau.