Arholiadau safon uwch a chyfleoedd i ailsefyll

 

Rydym yn deall bod Covid wedi amharu ar ddysgu myfyrwyr, yn enwedig yn 2020 a 2021.

 

Os ydych yn ailsefyll arholiadau Safon Uwch yn 2024 ac wedi ennill graddau UG/Safon Uwch yn 2020 neu 2021  efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn gradd Safon Uwch yn seiliedig ar unedau U2 yn unig yn 2024.

 

Byddwch yn  gymwys i dderbyn gradd Safon Uwch yn seiliedig ar unedau U2 yn unigyn 2024 os:

  • Dyfarnwyd cymhwyster UG i chi yn yr un fanyleb yn haf 2020 neu haf 2021 a byddwch yn sefyll eich arholiadau Safon Uwch yn haf 2024, NEU
  • Dyfarnwyd cymhwyster Safon Uwch i chi yn yr un fanyleb yn haf 2020  neu haf 2021 a'ch bod am ailsefyll yn haf 2024, NEU
  • Dyfarnwyd cymwyster UG neu Safon Uwch i chi yn yr un fanyleb yn haf 2020 neu haf 2021 a'ch bod wedi ennill cymhwyster Safon Uwch yn seiliedig yn unig ar unedau U2 yn haf 2022 neu haf 2023 ac rydych am ailsefyll yn haf 2024.

Os ydych chi'n ailsefyll yn haf 2024, siaradwch â staff yn eich ysgol neu goleg i sicrhau eich bod yn ymdrin â'r unedau cywir. Mae'r canllawiau uchod yn amodol ar y rheolau ailsefyll sydd wedi'u hamlinellu yn ein Canllaw i ailsefyll.