Ymgeiswyr Preifat

Ymgeiswyr preifat yw ymgeiswyr sy'n dilyn cwrs astudio yn annibynnol ond sy'n sefyll arholiad ac/neu asesiad yn un o ganolfannau arholiadau cymeradwy CBAC (ysgol neu goleg). Mae ymgeiswyr preifat yn gyfrifol am wneud trefniadau priodol ag ysgol neu goleg sy'n barod i:

 

(a) cynnal yr arholiad yn y modd angenrheidiol;

(b) cynnal, goruchwylio, marcio a dilysu unrhyw unedau/cydrannau di-arholiad

 

Dylai ymgeiswyr preifat ddod o hyd i ysgol/coleg cyn iddyn nhw ddechrau ar eu hastudiaethau. Dim ond cofrestriadau gan ymgeiswyr sydd eisoes wedi dod i drefniant y gallwn ni eu derbyn.

 

Mae'r CGC wedi cyhoeddi rhestr o ganolfannau a fydd yn derbyn ymgeiswyr preifat ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch. Fodd bynnag, gallwch weithio gydag unrhyw ganolfan sy'n derbyn cofrestriadau ymgeiswyr preifat, nid oes rhaid iddynt fod ar y rhestr. Os ydych yn cael anhawster dod o hyd i ysgol/coleg yn eich ardal, byddem yn eich cynghori i gysylltu â'ch Awdurdod Addysg Lleol am gyngor.

 

Mae gwybodaeth bellach ynghylch gweithdrefnau ar gyfer ymgeiswyr preifat ar gael yn y llyfryn hwn.

 

Gall ymgeiswyr preifat gael mynediad at gyn-bapurau arholiad a chynlluniau marcio ar dudalen we pob cymhwyster. Os nad yw’r papur a’r cynllun marcio diweddaraf wedi’u cyhoeddi, cysylltwch â’ch canolfan gofrestru i ofyn a ydyn nhw’n gallu rhoi’r papur a’r cynllun marcio diweddaraf i chi er mwyn eich helpu i adolygu. Os nad yw eich canolfan gofrestru yn gallu rhoi’r papur i chi, anfonwch neges e-bost at ymgeiswyrpreifat@cbac.co.uk.