Yn ôl i'r ysgol: ein 6 awgrym gorau i fyfyrwyr

Ar ôl gwyliau'r haf, gall mynd yn ôl i drefn arferol ysgol/coleg deimlo fel newid mawr a all ddod â chymysgedd o emosiynau. Efallai y byddwch chi'n edrych ymlaen i weld eich holl ffrindiau eto, neu efallai eich bod chi'n teimlo ychydig yn nerfus am athrawon/darlithwyr newydd neu symud i grŵp blwyddyn newydd.  

Beth bynnag rydych chi'n ei deimlo, gall cymryd amser i baratoi cyn eich diwrnod cyntaf yn ôl ei wneud yn llawer haws. 

Daliwch ati i ddarllen i ddarganfod ein hawgrymiadau gorau ar gyfer mynd yn ôl i'r ysgol/coleg… 
 

6 awgrym ar gyfer mynd yn ôl i'r ysgol i fyfyrwyr 

  1. Trefnwch eich deunydd ysgrifennu a'ch bag 

Bydd paratoi eich bag ysgol/coleg a'ch deunydd ysgrifennu cyn y diwrnod cyntaf yn eich helpu i deimlo'n barod ac osgoi unrhyw banig munud olaf. 

Gwagiwch eich bag ysgol/coleg a'i lanhau'n gyflym. Taflwch unrhyw hen defnydd pecynnu byrbrydau neu ysgrifbinnau wedi torri a allai fod yn dal i guddio yn y bag o'r tymor diwethaf. 

Yna'r rhan gorau – deunydd ysgrifennu! Nid oes angen llawer o ddeunyddiau drud arnoch, ond gall fod â'r hanfodion yn barod wneud gwersi bob dydd yn llawer haws. Gwnewch yn siŵr bod y canlynol gennych chi: 

  • Ysgrifbinnau a phensiliau 

  • Pren mesur 

  • Rwber a miniwr 

  • Uwcholeuwyr 

  • Cyfrifiannell (os oes angen un ar gyfer eich pynciau) 

  • Cas pensiliau i gadw popeth gyda'i gilydd 

  • Ffolderi ar gyfer eich pynciau 

 

  1. Cael digon o gwsg 

Efallai y byddwch chi'n arfer aros i fyny yn hwyrach a mwynhau boreau diog yn ystod y gwyliau, ond unwaith y bydd yr ysgol/coleg yn dechrau eto, gall mynd yn ôl i drefn gysgu rheolaidd wneud gwahaniaeth mawr i sut rydych chi'n teimlo trwy gydol y diwrnod ysgol/coleg. 

Felly, os yw'ch trefn cwsg wedi llithro dros y gwyliau, ceisiwch wneud newidiadau bach ychydig ddyddiau cyn i chi fynd yn ôl i'r ysgol/coleg. Gall mynd i'r gwely ychydig yn gynharach bob nos a gosod amser deffro cyson helpu'ch corff i addasu heb iddo deimlo fel newid enfawr. 

 

  1. Crëwch drefn reolaidd y gallwch gadw ati 

Bydd dechrau blwyddyn ysgol/coleg newydd yn golygu y byddwch chi'n addasu i bynciau newydd, amserlen newydd, gwaith cartref a gweithgareddau allgyrsiol. Ac er y gallai gymryd ychydig o amser i setlo, gall creu trefn reolaidd sy'n gweithio i chi wneud cydbwyso popeth yn llawer haws. 

Nid oes angen i'ch trefn arferol fod yn llawn o fore tan nos. Yn lle hynny, canolbwyntiwch ar greu ychydig o arferion syml y gallwch gadw atynt bob wythnos. Er enghraifft, gallech chi wneud y canlynol: 

  • Paciwch eich bag ysgol/coleg y noson gynt fel nad ydych chi'n rhuthro yn y bore. 

  • Neilltuwch amser ar gyfer gwaith cartref bob dydd. 

  • Gwnewch amser i ymlacio, boed hynny'n chwarae chwaraeon, gwrando ar gerddoriaeth, chwarae gemau cyfrifiadur neu dreulio amser gyda ffrindiau. 

  • Anelwch at amser gwely rheolaidd fel eich bod chi wedi cael gorffwys ac yn barod ar gyfer yr ysgol/coleg. 

Mae hyn yn ein harwain ni at ein pedwerydd pwynt… 

 

  1. Gofalu am eich llesiant 

Gall gofalu am eich llesiant eich helpu i deimlo'n hapusach ac yn fwy hyderus wrth fynd i flwyddyn ysgol/coleg newydd. 

Nid oes rhaid i hyn olygu gwneud newidiadau enfawr. Gall arferion bach gael effaith gadarnhaol ar sut rydych chi'n teimlo bob dydd. Ceisiwch fwyta prydau rheolaidd, cytbwys, hydradu a gwneud amser i fod yn weithgar, boed hynny'n gerdded i'r ysgol/coleg neu'n chwarae chwaraeon yn ystod neu ar ôl ysgol/coleg. 

Mae hefyd yn bwysig cymryd seibiannau, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn gwneud gwaith cartref/adolygu am gyfnod neu dreulio llawer o amser ar sgrin. 

Os hoffech chi gael awgrymiadau llesiant ychwanegol, darganfyddwch ein hamrywiaeth eang o flogiau cefnogaeth llesiant yma. 

 

  1. Manteisiwch i'r eithaf ar yr adnoddau o'ch cwmpas 

Mae eich athrawon/darlithwyr yno i gefnogi eich dysgu, felly os nad ydych chi'n deall rhywbeth yn y dosbarth neu angen arweiniad ychwanegol, peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau. Mae'n debyg, os ydych chi'n ansicr am rywbeth, bod rhywun arall yn eich dosbarth yn ansicr o hyn hefyd. 

Peidiwch ag anghofio am yr adnoddau ar-lein sydd ar gael i chi hefyd. Os ydych chi'n astudio ar gyfer cymwysterau CBAC, manteisiwch i'r eithaf ar yr adnoddau adolygu swyddogol a'r gefnogaeth pwnc sydd ar gael trwy gydol y flwyddyn. 

 

  1. Dechreuwch adolygu ychydig ac yn aml 

Mae dechrau adolygu'n gynnar yn un o'r arferion gorau y gallwch ei gael. Gall hyd yn oed 10-15 munud yn unig ychydig o weithiau'r wythnos o fynd dros yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn y dosbarth wneud gwahaniaeth mawr o ran cadw cof dros amser. 

Ceisiwch ddefnyddio gwahanol dechnegau adolygu i ddod o hyd i'r hyn sy'n gweithio orau i chi, a gallwch ddysgu popeth am y rhain yn ein blog cadw cof 

 

Cwestiynau Cyffredin dychwelyd yn ôl i'r ysgol/coleg

Sut ydw i'n cadw'n drefnus yn ystod y flwyddyn ysgol/coleg? 

Yn syml, mae cadw'n drefnus yn dechrau gyda rhoi arferion syml ar waith. Er enghraifft, defnyddiwch gynllunydd wythnosol neu galendr i olrhain gwaith cartref a therfynnau amser, paciwch eich bag ysgol/coleg y noson gynt, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael digon o gwsg a chadwch at drefn sy'n gweithio i chi.  

Sut alla i leihau ar straen yn yr ysgol/coleg? 

Y ffordd orau o leihau straen yn yr ysgol/coleg yw cadw'n drefnus, gwneud eich gwaith cartref yn brydlon a gwneud amser i ymlacio. Os ydych chi'n teimlo wedi'ch llethu, siaradwch ag athro, darlithydd, rhiant, gofalwr neu ffrind dibynadwy. Cofiwch, mae gofyn am help yn gam cadarnhaol, ac nid oes rhaid i chi reoli popeth ar eich pen eich hun. 

Pryd ddylai myfyrwyr ddechrau adolygu? 

Mae'n syniad da dechrau adolygu yn gynnar yn y flwyddyn ysgol/coleg yn hytrach nag aros nes bod arholiadau rownd y gornel. Gall adolygu ychydig ac yn aml eich helpu i gofio'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu, magu eich hyder a gwneud i'r tymor arholiadau deimlo'n llawer llai o straen. 

 

A dyna ni! Os ydych chi'n gweld y blog hwn yn ddefnyddiol, mae gennym lawer mwy o awgrymiadau adolygu yn ein blog cefnogaeth myfyrwyr, gan gynnwys estunau fel 'Wedi diflasu ar adolygu? 5 awgrym i wneud adolygu yn hwyl', 'Sut i adolygu heb golli'r gallu i ganolbwyntio: Ein 6 awgrym gorau' a '10 Awgrym gwych ar gyfer y noson cyn eich arholiad'.