10 Awgrym Defnyddiol Ar Gyfer y Noson Cyn Eich Arholiad

10 Awgrym defnyddiol ar gyfer y noson cyn eich arholiad

Mae hi'n noson cyn yr arholiad ac mae eich emosiynau’n rhedeg yn uchel. Dyma 10 awgrym gwych i'ch paratoi ar gyfer y diwrnod nesaf, gan gynnwys popeth o dechnegau adolygu munud olaf, i beth i'w fwyta cyn yr arholiad ei hun.

1. Bwytwch wledd

Gwnewch ymdrech i dretio’ch hun drwy fwynhau bryd blasus; bydd hyn yn rhoi hwb i'ch hwyliau ac yn eich paratoi'n dda ar gyfer y diwrnod nesaf. Ymhlith y bwydydd gwych sy'n gwella'r cof mae:

  • Pysgod brasterog: Mae eog, brithyll a sardinau yn ffynonellau cyfoethog o asidau brasterog omega 3.
  • Aeron: mae llus yn arbennig wedi dangos i wella'r cof a hyd yn oed oedi colli cof tymor byr. Rhowch lond llaw ohonynt yn eich grawnfwyd neu fel byrbryd syml.
  • Orennau: mae'r fitamin C mewn orennau'n ymladd radicalau rhydd sy'n gallu difrodi celloedd yr ymennydd. Gellir dod o hyd i fitamin C mewn pupurau cloch, ciwi, tomatos a mefus.
  • Wyau: Mae wyau yn ffynhonnell dda o Golin, microfaethyn pwysig y mae eich corff yn ei ddefnyddio i greu niwrodrawsglwyddwyr i helpu'r cof.

2. Dim byd newydd!

Peidiwch byth â rhedeg marathon mewn esgidiau newydd! Mae'r rhesymeg 'dim byd newydd' yn gweithio ar gyfer arholiadau hefyd, os nad ydych chi wedi rhoi cynnig arni o'r blaen, nid dyma'r amser i arbrofi. Daliwch ati â'r hyn rydych yn ei wybod a'r hyn rydych wedi'i ymarfer, ewch â'r hyn a weithiodd i chi yn y gorffennol.

3. Cymerwch gyntun

Mae llawer o bobl yn credu bod rhaid aberthu cwsg ar gyfer amser astudio'r noson cyn eu harholiad, ond mae llawer o astudiaethau yn dangos bod cael digon o gwsg (6.5 - 8 awr) yn ffordd allweddol o gyfnerthu gwybodaeth allweddol. Rhowch gynnig ar y drefn arferol hon: cyrhaeddwch adref, cymerwch gyntun pŵer cyflym (20-30 munud) ac yna rhowch eich pen i lawr i astudio cyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael noson dda o gwsg.

4. Lluniwch eich arholiad eich hun

Paratowch eich hun ar gyfer beth yn union rydych chi'n mynd i mewn iddo. Dyfeisiwch eich arholiad eich hun drwy fynd drwy eich holl ddeunyddiau a chwilio am gwestiynau posibl. Peidiwch â bod yn hael â'ch hun, dychmygwch mai chi yw'r arholwr a byddwch yn canfod ble mae eich cryfderau a'ch gwendidau. Gwnewch ddefnydd o'n Banc Cwestiynau ar-lein i greu eich papur cwestiynau eich hun, neu chwiliwch drwy ein cyfoeth o gyn-bapurau.

5. Rhowch gynnig ar y Pomodoro...

Mae llawer wedi canfod y dull hwn i fod yn hynod o effeithiol ar gyfer cwrdd â therfynau amser neu ddyfalbarhau drwy restri tasgau diddiwedd. Yn y bôn, hyfforddiant ysbeidiau ar gyfer eich ymennydd yw Dull Cynhyrchiant Pomodoro. Gweithiwch ar un peth am ysbaid o 25-30 munud yna cymerwch saib byr i gael diod ac ymestyn y coesau. Ar ôl 4-5 set o hyn, cymerwch brif doriad hirach o 15 – 30 munud, ac yna dechreuwch y drefn eto. Y peth pwysicaf i'w gofio gyda'r dull hwn yw canolbwyntio'n llwyr ar eich gwaith yn y 25-30 funudau o weithio.

6. Trefnwch eich hun!

Mae cael eich hun yn hollol barod y noson gynt yn allweddol i atal rhuthro a phanig diangen ar fore eich arholiad. Casglwch yr holl offer y bydd eu hangen arnoch ar gyfer yr arholiad a gosodwch eich dillad yn barod i'w rhoi ymlaen yn y bore. Byddwch yn barod!

7. Gadewch y caffein

Osgowch gaffein cyn eich arholiad, gall cwpanaid o goffi gyda'r nos effeithio ar eich gallu i gyrraedd stadau dwfn o gwsg, sy'n hanfodol er mwyn ffurfio'r cof.

Dyma rai dewisiadau yn lle caffein i chi roi cynnig arnynt:

  • Te lemwn a mêl: gwasgwch hanner lemwn i mewn i'ch hoff fwg, ychwanegwch lond llwy de o fêl a llenwch ef â dŵr poeth.
  • Te perlysieuol: nid yn unig yn wych ar gyfer annwyd; mae te perlysieuol yn wych ar gyfer tawelu nerfau a hydradu. Mae llwythi o flasau yn y siopau o wraidd licris i fefus, mi fydd hi’n hawdd dod o hyd i'ch hoff flas.
  • Smwddis: Rhowch gynnig ar arbrofi gyda'ch hoff ffrwythau a llysiau ffres a mwynhewch hwb sy'n llawn protein ac yn torri syched.

8. Gwnewch ymarfer cardio

Os oes gennych amser, ceisiwch wasgu sesiwn bŵer i mewn cyn 7pm y noson cyn eich arholiad i gael y gwaed, ocsigen a maetholion i bwmpio drwy eich ymennydd. Mae hyn yn helpu i wella eich sgiliau cof a datrys problemau. Does dim rhaid iddo fod yn unrhyw beth rhy ddwys, mae rhywbeth mor syml â mynd â'r ci am dro, neu fynd o amgylch y bloc unwaith neu ddwy yn fuddiol.

9. Sicrhewch eich bod yn hydradu, hydradu, ac yn hydradu mwy!

Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng yfed dŵr a swyddogaeth eich ymennydd. Cadwch draw oddi wrth y diodydd egni, gan y gallent gyfrannu at waethygu eich nerfau'r diwrnod wedyn. Anelwch at yfed 8-10 gwydraid (neu 2 litr) o ddŵr y dydd.  Mae hyn yn swnio fel lot ond os ydych yn cadw potel gyda chi ac yn cymryd sipiau'n aml, byddwch yn yfed y dŵr mewn dim.

10. Defnyddiwch eich eiliadau olaf yn ddoeth

Mae'r munudau olaf cyn i'ch pen daro'r gobennydd yn amser gwych ar gyfer dysgu ar y cof. Wrth i chi fynd i'r gwely cyn cysgu, mae eich dulliau cadw cof yn gwella'n sylweddol, felly ewch dros y geiriau, yr hafaliadau a'r damcaniaethau allweddol hynny cyn mynd i gysgu i wneud yn fawr o'r pŵer ymennydd ychwanegol hwnnw!

Rydym yn gobeithio bod yr awgrymiadau hyn o fudd i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich arholiadau a dymunwn y gorau i chi.