Adolygu yn y bore neu Adolygu yn y nos: Pryd yw'r amser gorau i adolygu?
Adolygu yw'r rhan bwysicaf o baratoi at arholiadau, ond gall penderfynu pryd i adolygu deimlo ychydig yn ddryslyd. Mae'n well gan rai pobl sesiynau yn gynnar yn y bore, tra bod eraill yn honni eu bod yn gweithio'n gwell gyda'r nos.
Y gwir yw, nid oes 'amser gorau' i adolygu oherwydd bod gan bawb ffordd wahanol o weithio.
Yn y blog hwn, byddwn yn dadansoddi'r wyddoniaeth sy'n ymwneud ag adolygu yn y bore a'r nos, yn archwilio eu manteision, ac yn eich helpu i ddarganfod pa ddull (neu efallai cyfuniad o'r ddau) sy'n gweithio orau i chi ar gyfer eich arholiadau.
Beth mae gwyddoniaeth yn ei ddweud yw'r amser gorau i adolygu
Yn fyr, mae gwyddoniaeth yn awgrymu nad oes amser "perffaith" sy'n gweithio i bawb wrth adolygu. Fodd bynnag, mae yna batrymau clir o ran sut mae'r ymennydd yn perfformio drwy gydol y dydd.
Ffactor allweddol yw eich rhythm circadaidd, sef cloc mewnol eich corff sy'n rheoli pa mor effro ydych, eich egni a'ch cwsg. I'r rhan fwyaf o bobl, mae'r lefelau effro yn tueddu i godi yn hwyr yn y bore, gostwng yn gynnar yn y prynhawn, ac yna codi eto yn gynnar gyda'r nos.
Mae hyn yn golygu y gall eich gallu i ganolbwyntio ar wybodaeth amrywio'n naturiol yn dibynnu ar yr amser o'r dydd.
Mae ymchwil yn ymwneud â dysgu a'r cof hefyd yn dangos:
-
Mae eich gallu i dalu sylw a chanolbwyntio yn aml ar ei gryfaf pan fyddwch chi wedi gorffwyso’n dda, fel arfer yn gynharach yn y dydd ar ôl noson dda o gwsg.
-
Mae'r cof yn cryfhau tra rydych chi'n cysgu, felly gall astudio gyda'r nos fod yn effeithiol o hyd oherwydd bod eich ymennydd yn cryfhau unrhyw wybodaeth newydd dros nos.
-
Mae perfformiad unigolyn yn amrywio yn ôl cronoteip unigol (p'un a ydych chi'n naturiol yn "berson bore" neu'n "dylluan nos"), a all effeithio'n sylweddol ar pryd rydych chi'n dysgu orau.
Mae astudiaethau hefyd yn dangos bod myfyrwyr sy'n defnyddio technegau dysgu gweithredol ac yn trefnu eu sesiynau adolygu dros amser yn perfformio'n well na'r rhai sy'n dibynnu ar ddysgu popeth yn hwyr yn y nos neu'n adolygu munud olaf, waeth pryd maen nhw'n adolygu.
Manteision adolygu yn y bore
Gall adolygu yn y bore fod yn effeithiol iawn, yn enwedig i fyfyrwyr sy'n teimlo'n well ar ôl cwsg ac eisiau manteisio i’r eithaf ar yr oriau gorau i ganolbwyntio.
Mae rhai o'r manteision allweddol ar gyfer adolygu yn y bore yn cynnwys:
-
Mwy effro a gwell ffocws
Ar ôl noson lawn o gwsg, mae eich ymennydd yn ei gyflwr mwyaf ffres ac effro, sy'n ei gwneud hi'n haws i ganolbwyntio ar dasgau heriol.
Mae ymchwil yn dangos bod cwsg yn cael un o'r effeithiau mesuradwy mwyaf ar eich sylw gydag astudiaethau yn canfod bod hyd yn oed cyfyngiad bach ar eich cwsg (4-6 awr hyd yn oed) yn lleihau eich ffocws yn sylweddol ac yn cynyddu'r diffyg sylw.
Felly, cyhyd â’ch bod chi'n cael digon o gwsg (tua 7+ awr), mae eich ymennydd yn teimlo'n ffres ac mae eich gallu gwybyddol ar ei orau - mae adolygu yn y bore yn fwy tebygol o arwain at ffocws mwy craff a dysgu mwy effeithiol.
-
Llai o bethau digidol i dynnu eich sylw
Mae'r bore cynnar yn tueddu i fod yn un o gyfnodau tawelaf y dydd, a all wneud gwahaniaeth sylweddol i ba mor effeithiol rydych chi'n adolygu.
Gyda llai o hysbysiadau neu negeseuon yn cystadlu am eich sylw ar eich dyfais dechnegol, mae'n llawer haws i gadw eich ffocws am gyfnod hirach heb neb yn tarfu.
Mae ymchwil yn awgrymu y gall gymryd dros 20 munud i ganolbwyntio'n llawn eto ar ôl i rywbeth dynnu eich sylw, sy'n golygu y gall hyd yn oed egwyl bach, fel edrych ar eich ffôn er enghraifft, leihau effeithlonrwydd sesiwn adolygu'n aruthrol.
-
Mwy o gymhelliant a gwell cynhyrchedd
Rhywbeth arall y mae llawer o fyfyrwyr yn elwa ohono drwy adolygu yn y bore yw'r gallu i gynhyrchu gwaith yn well.
Gall cwblhau tasgau ystyrlon peth cyntaf yn y bore greu teimlad o gyflawniad, ac mae’r egni rydych chi'n 'ennill' o (gyflawni) hynny yn aml yn cael ei deimlo drwy'r dydd – gan roi hwb i'ch cymhelliant a’i gwneud hi’n haws i aros yn gynhyrchiol yn yr oriau sy'n dilyn.
O safbwynt ehangach, mae bod yn gynhyrchiol yn ymwneud â defnyddio eich amser a'ch egni yn effeithlon, ac fel y soniwyd yn y pwynt uchod, mae fel arfer llai o bethau i dynnu eich sylw yn y bore, sy'n eich galluogi i ganolbwyntio gymaint yn well.
Ac mae ymchwil i gefnogi hyn! Mae astudiaethau ar y gallu i ganolbwyntio yn awgrymu bod egni meddyliol unigolyn yn uwch yn gynharach yn y dydd, sy'n golygu bod tasgau lle mae angen canolbwyntio - fel adolygu - yn aml yn cael eu cwblhau’n fwy effeithiol yn y bore.
Manteision adolygu gyda'r nos
Er bod rhai pobl yn gwneud eu gwaith adolygu gorau yn y bore, mae ymchwil cadarn hefyd wedi nodi bod manteision i adolygu gyda'r nos.
-
Mwy o feddwl yn greadigol
Er bod astudiaethau wedi dangos y gall adolygu yn ystod y bore fod yr amser gorau ar gyfer canolbwyntio ac aros yn effro, mae sesiynau gyda'r nos yn adnabyddus am reswm gwahanol - creadigrwydd.
Gwrandewch arnom ni...
Gall adolygu gyda'r nos fod yn rhyfeddol o effeithiol ar gyfer meddwl yn greadigol oherwydd bod eich ymennydd yn gweithio ychydig yn wahanol erbyn y pwynt hwnnw yn y dydd. Rydych chi fel arfer yn fwy ymlaciol ac ychydig yn flinedig yn feddyliol - a allai swnio'n rhyfedd, ond gall hynny helpu gyda meddwl yn greadigol.
Mae yna ymchwil i gefnogi hyn. Er enghraifft, canfu astudiaeth a gyhoeddwyd yn Thinking & Reasoning bod lefelau is o ffocws (fel y rhai y gallech eu profi gyda'r nos) yn gwella eich perfformiad ar dasgau sy'n gofyn am fewnwelediad yn hytrach na rhesymeg gadarn. Mae hyn oherwydd bod meddwl heb ganolbwyntio gymaint yn caniatáu i chi feddwl am fwy o syniadau yn hytrach na'u hanghofio'n rhy gyflym.
-
Llai o bethau i dynnu eich sylw yn ystod y dydd
Erbyn i'r nos gyrraedd, mae'r rhan fwyaf o sŵn y dydd wedi tawelu. Mae'r ysgol neu'r gwaith wedi gorffen, mae amser swper allan o'r ffordd, ac mae anhrefn y dydd yn arafu.
Yn wahanol i'r bore - pan fyddwch chi'n elwa o lai o bethau digidol yn tynnu eich sylw - yn aml, un o fanteision adolygu gyda'r nos yw bod llai o gyfrifoldebau yn cystadlu am eich sylw.
Nid oes angen i chi feddwl am baratoi ar gyfer y diwrnod neu ruthro rhwng gwahanol dasgau, sy'n eich galluogi i eistedd i lawr a chanolbwyntio heb unrhyw bwysau.
Gall yr amser hirach hwn, heb amhariad, fod yn arbennig o fuddiol ar gyfer sesiynau adolygu dyfnach, fel ymarfer cwestiynau arholiad, lle mae angen i chi ganolbwyntio'n barhaus yn hytrach na chanolbwyntio’n gyflym.
-
Mae'n ffitio mewn trefn hyblyg
Mae adolygu gyda'r nos yn gweithio'n dda oherwydd ei fod yn eich galluogi i’w drefnu o gwmpas eich diwrnod yn hytrach nag aildrefnu eich cynlluniau.
Mae hefyd yn werth cofio nad yw pawb yn berson sy'n hoffi'r bore ac mae hynny'n hollol iawn. Mae rhai pobl yn naturiol yn teimlo'n fwy effro a chynhyrchiol yn hwyrach yn y dydd, ac mae adolygu gyda'r nos yn caniatáu iddynt wneud y gorau o hynny heb ymladd yn erbyn yr hyn sy'n naturiol i'w cyrff.
Adolygu yn y bore neu Adolygu yn y nos: pa un yw'r gorau?
Does dim gwir ateb i’r cwestiwn hwn. Byddwch wedi dod i wybod eich hun mai eich trefn bersonol a’ch lefelau egni sy’n gwneud y gwahaniaeth.
Os ydych chi wedi cael noson dda o gwsg, mae adolygu yn y bore yn aml yn ddelfrydol ar gyfer canolbwyntio a bod yn gynhyrchiol oherwydd bod eich meddwl yn ffres ac mae llai o bethau i dynnu eich sylw chi. Ar y llaw arall, gall adolygu gyda'r nos fod yr un mor effeithiol, yn enwedig ar gyfer meddwl yn ddyfnach ac yn greadigol, gan fod yr amgylchedd yn aml yn dawelach ac mae llai o bwysau amser.
Yn fyr, y dull gorau yw'r un y gallwch gadw ato'n gyson. Felly, os ydych chi'n berson y bore, defnyddiwch yr amser ffocws gorau ar ôl i chi ddeffro, ac os ydych chi'n gweithio'n well yn y nos, dewiswch hynny yn lle. Does dim ateb cywir nac anghywir.
Os ydych chi'n gweld y blog hwn yn ddefnyddiol, mae gennym lawer mwy o awgrymiadau adolygu yn ein blog cefnogaeth i fyfyrwyr, gan gynnwys testunau fel 'Wedi diflasu ar adolygu? 5 awgrym i wneud adolygu'n hwyl', 'Sut i adolygu heb golli'r gallu i ganolbwyntio: Ein 6 awgrym gorau' & '10 Awgrym defnyddiol ar gyfer y noson cyn eich arholiad'.