Sut i adolygu heb golli'r gallu i ganolbwyntio: Ein 6 awgrym gorau
Os ydych chi eisoes wedi eistedd i lawr i adolygu ac rywsut yn canfod eich hun yn sgrolio ar eich ffôn 10 munud yn ddiweddarach, nid ydych chi ar eich pen eich hun! Mewn gwirionedd, mae astudiaethau'n dangos y gallai'r person cyfartalog yn ei arddegau ganolbwyntio am tua 14 munud yn unig cyn bod rhywbeth yn tynnu ei sylw.
Mae'n hawdd teimlo fel na allwch chi ganolbwyntio wrth adolygu ar gyfer eich arholiadau TGAU neu Safon Uwch, ond mae hyn yn gyffredin iawn, ac mae sawl rheswm pam mae'n digwydd, yn enwedig gyda phethau i dynnu'r sylw'n gyson, megis ffonau, y cyfryngau cymdeithasol, a hyd yn oed eich meddyliau eich hun.
Nid diffyg cymhelliant yw'r broblem fel arfer – y ffaith bod eich amgylchedd a'ch dulliau adolygu yn ei gwneud yn anodd i'ch ymennydd gynnal ffocws.
Y newyddion da yw bod ffocws yn sgìl y gallwch chi ei wella. Yn y blog hwn, byddwn yn dadansoddi'r rhesymau posibl y gall pethau fod yn tynnu eich sylw wrth adolygu ac yn rhannu strategaethau ymarferol, realistig i'ch helpu i gynnal ffocws.
Pam mae pethau'n tynnu fy sylw wrth adolygu?
Un o'r prif bethau i dynnu eich sylw wrth adolygu yw eich ffôn. Mae wastad yno, ac mae'n cynnig adloniant ar alw sydd weithiau'n gaethiwus. Ar y llaw arall, mae adolygu'n gofyn am ymdrech a chanolbwyntio, felly pan mae eich ymennydd â'r dewis rhwng rhywbeth hawdd a rhywbeth heriol, mae'n naturiol iddo ddewis y dewis haws.
Rheswm cyffredin arall yw adolygu goddefol. Os ydych chi'n darllen nodiadau neu'n eu haroleuo, nid yw eich ymennydd yn cymryd sylw llawn. Gall deimlo fel eich bod yn adolygu, ond nid ydych chi'n meddwl yn weithredol, sy'n ei gwneud yn llawer haws i'ch meddwl fynd ar grwydr.
Mae hefyd yn broblem peidio cael cynllun clir, oherwydd os nad ydych chi'n gwybod yn union beth mae angen i chi fod yn ei wneud, mae'n hawdd colli ffocws. Gallech chi newid rhwng tasgau neu wirio eich ffôn gan nad oes strwythur i'ch sesiwn.
Mae blinder meddyliol hefyd yn ffactor mawr. Os ydych chi wedi bod yn adolygu'n rhy hir heb seibiannau digonol, bydd eich ffocws yn llithro'n naturiol, ac ar y pwynt hwnnw, gall hyd yn oed y pethau bychain dynnu eich sylw oddi ar y gwaith.
6 ffordd wedi'i phrofi o adolygu heb unrhyw beth i dynnu'r sylw
1. Cael gwared ar y prif bethau sy'n tynnu eich sylw (h.y. eich ffôn)
I'r rhan fwyaf, y ffôn heb os un o'r prif resymau dros golli ffocws wrth adolygu.
Hyd yn oed os nad ydych chi'n ei ddefnyddio, os yw gerllaw mae'n hawdd cymryd golwg 'cyflym' arno, sydd yn aml yn troi'n amser hir.
Dull syml ond effeithio o'i chwmpas hi yw rhoi eich ffôn mewn ystafell arall fel nad oes modd ei ddefnyddio, ac os nad yw hynny'n bosibl, gallwch ddefnyddio blocwyr apiau i gyfyngu mynediad ir cyfryngau cymdeithasol tra byddwch chi'n adolygu. Mae defnyddio'r nodwedd peidio â tharfu neu fodd awyren yn opsiwn arall i atal hysbysiadau rhag tynnu'r sylw.
2. Defnyddio'r techneg pomodoro
Mae'r dechneg pomodoro yn ffordd syml o strwythuro eich gwaith adolygu: 25 munud o waith dwys wedi'i ddilyn gan egwyl o 5 munud.
Mae hyn yn gweithio oherwydd ei fod yn teimlo'n hawdd ei drin – nid ydych chi'n ymrwymo i oriau o adolygu, dim ond un sesiwn.
Mae hefyd yn helpu i atal chwythu plwc, gan eich bod yn cynnwys seibiannau rheolaidd, ac yn gwybod bod gennych chi egwyl ar ei ffordd, mae'n haws cynnal ffocws yn ystod y 25 munud.
3. Creu gofod adolygu glân, pwrpasol
Mae lle fyddwch chi'n adolygu'n bwysicach nag y gallech chi ei feddwl, ystyriwch y dywediad 'Gofod glân = meddwl glân'.
Mae gofod tawel, heb annibendod yn helpu i leihau faint o bethau all dynnu'r sylw ac yn ei gwneud yn llawer haws canolbwyntio. Dros amser, mae eich ymennydd yn dechrau cysylltu'r gofod hwnnw â ffocws a chynhyrchiant, sy'n golygu y gall eistedd i lawr yno eich rhoi chi yn y meddylfryd cywir i adolygu.
Mae hefyd yn bwysig osgoi adolygu mewn lleoedd byddwch chi fel arfer yn ymlacio, fel eich gwely, gan y gall hyn ei gwneud yn anodd newid i feddylfryd adolygu.
4. Gosod nodau clir
Weithiau gall dweud 'rydw i am adolygu bioleg heddiw' fod yn rhy amwys, a dyna lle mae pethau'n gallu dechrau tynnu eich sylw.
Yn hytrach, gallech chi osod tasgau penodol, megis 'cwblhau 10 cerdyn fflach ar adeiledd cell' neu 'ate 5 cwestiwn arholiad ar ensymau'. Mae hyn yn rhoi rhywbeth cadarn i'ch ymennydd ganolbwyntio arno ac mae'n creu ymdeimlad o gynnydd, sy'n eich helpu i gynnal cymhelliant ac i aros ar y trywydd cywir.
5. Adolygu'n weithredol nid goddefol
Nid yw adolygu goddefol (megis ailddarllen neu aroleuo nodiadau) yn gofyn am lawer o ymdrech, felly mae eich ymennydd yn diflasu'n gyflym, a dyna lle mae pethau'n gallu tynnu eich sylw.
Mae dulliau adolygu gweithredol, megis profi eich hun, defnyddio cardiau fflach, neu ymarfer cwestiynau gyda chyn-bapurau, yn cadw'r ymennydd yn weithredol ac rydych chi'n llawer llai tebygol i golli ffocws neu edrych ar eich ffôn.
6. Cymryd seibiannau go iawn heb edrych ar sgrin
Mae seibiannau'n bwysig, ond mae sut byddwch chi'n eu trin yn allweddol. Gall sgrolio ar eich ffôn yn ystod egwyl olygu bod yr ymennydd yn brysur, sy'n ei gwneud yn anoddach ailafael yn y gwaith canolbwyntio wedi hynny.
Yn hytrach, cymerwch seibiannau go iawn, p'un a yw'n golygu mynd am dro, gwneud byrbryd, gwneud rhywfaint o ymestyn wrth y ddesg neu fwytho eich anifail anwes.
Mae'r mathau hyn o seibiannau yn helpu i ailosod yr ymennydd ac yn ei gwneud yn haws canolbwyntio pan fyddwch chi'n dychwelyd i'r gwaith adolygu.
Cwestiynau Cyffredin Adolygu
- Am ba mor hir ddylwn i adolygu cyn cymryd seibiant? Rheol dda fyddai adolygu am 25-50 munud, yna cymryd egwyl byr. Mae hyn yn cyfateb i'r cyfnod canolbwyntio naturiol ac mae'n helpu i atal chwythu plwc.
- A yw'n well adolygu mewn tawelwch neu gyda cherddoriaeth? Mae'r cyfan yn dibynnu ar y person. Mae rhai myfyrwyr yn canolbwyntio orau mewn tawelwch llwyr, ac mae'n well gan eraill sŵn yn y cefndir. Os ydych chi'n dewis cerddoriaeth, fel arfer mae'n well gwrando ar rywbeth heb eiriau, gan y gallai'r geiriau dynnu eich sylw.
- Sut ydw i'n stopio edrych ar fy ffôn wrth adolygu? Y dull mwyaf effeithiol yw dileu'r temtasiwn yn gyfan gwbl. Rhowch eich ffôn mewn ystafell arall neu ddefnyddiwch apiau sy'n atal y cyfryngau cymdeithasol yn ystod sesiynau adolygu.
- Beth ddylwn i wneud os ydw i'n colli ffocws o hyd? Os ydych chi'n colli ffocws o hyd, peidiwch â mynd yn anniddig, ailgychwynnwch y sesiwn. Cymerwch egwyl sylweddol, a mynd yn ôl ati gyda nod clir, gan ddechrau â rhywbeth bach i adeiladu momentwm, neu gallwch chi newid pwnc neu ddull adolygu i gadw pethau'n ffres.
I weld rhagor o awgrymiadau adolygu, cymerwch olwg ar ein blog cefnogi myfyrwyr.