Wedi diflasu ar adolygu? 5 awgrym i wneud adolygu'n hwyl
Byddwch yn onest – nid yw adolygu'n rhywbeth mae'r rhan fwyaf o bobl yn edrych ymlaen i'w wneud. Weithiau gall deimlo'n ailadroddus, diflas, ac fel rhywbeth mae'n rhaid i chi orfodi eich hun i'w wneud. Ond peidiwch â phoeni, nid oes rhaid i bethau fod fel yno!
Y newyddion da yw gall newidiadau bach newid sut mae adolygu'n teimlo yn gyfan gwbl, a dyna lle gallwn ni helpu!
Dyma 5 awgrym syml, realistig i wneud eich sesiynau adolygu'n fwy diddorol ac yn llawer mwy effeithiol.
1. Adolygu gyda'ch ffrindiau
Mae adolygu gyda'ch ffrindiau yn ffordd wych o wneud adolygu'n hwyl, ond yn amlwg, ddim ond drwy ei wneud yn iawn. Os yw'n troi'n sesiwn dal i fyny 2-awr o hyd, nid yw'n mynd y helpu rhyw lawer.
Y ffordd orau yw gosod tasgau clir, gallech chi brofi eich gilydd neu esbonio testunau i'ch gilydd. Mae hyn yn cadw pethau'n rhyngweithiol ac yn eich helpu i fod yn atebol.
Gall adolygu â ffrindiau hefyd wneud adolygu'n llai ynysig. Weithiau gall cael rhywun arall yno'n gweithio tua'r un nod ei gweud yn haws cynnal cymhelliant. Sicrhewch eich bod yn dewis y bobl iawn – rhai sydd am wneud y gwaith.
2. Defnyddio cymhellion a gwobrau
Un o'r prif resymau mae adolygu'n aml yn teimlo'n flinedig yw nad oes gwobr yn y tymor byr – gall arholiadau fod wythnosau neu fisoedd i ffwrdd.
Dyna pam gall ychwanegu eich gwobrau eich hunain wneud gwahaniaeth enfawr... ac nid oes rhaid iddo fod yn ddim byd mawr. Gall fod yn rhywbeth mor syml â gwylio pennod o sioe rydych chi'n ei fwynhau, mwynhau byrbryd, neu fynd ar eich ffôn ar ôl gorffen tasg. Yr allwedd yw cysylltu'r gwobr â chwblhau rhywbeth penodol, megis gorffen set o gardiau fflach neu gwestiwn cyn-bapur.
3. Defnyddio liw a diagramau yn eich nodiadau
Er nad yw'r cyngor hwn yn ffordd o wneud adolygu'n fwy o 'hwyl', gall ychwanegu lliw, diagramau neu fapiau meddwl yn sicr helpu i wneud adolygu deimlo'n fwy diddorol ac yn haws ei gofio.
Er enghraifft, gallwch chi ddefnyddio lliwiau gwahanol ar gyfer diffiniadau o dermau allweddol, neu droi destun yn ddiagram gweledol yn hytrach na'i ysgrifennu i gyd.
Nid yn unig mae hyn yn gwneud adolygu'n fwy diddorol, ond bydd hefyd yn helpu'r cof drwy wneud gwybodaeth yn amlwg.
4. Addysgu'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu
Un o'r ffyrdd gorau o wneud adolygu'n fwy diddorol (ac i aros yn y meddwl) yw addysgu'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu.
Rydyn ni'n gwybod y gall swnio'n od i ddechrau, ond mae'n gweithio gan ei fod yn eich gorfodi i ddeall y testun yn iawn, nid i amlygu eich nodiadau'n unig.
Yn aml iawn, byddwch chi'n teimlo eich bod yn "gwybod" rhywbeth oherwydd ei fod yn edrych yn gyfarwydd yn eich nodiadau adolygu. Ond pan fyddwch chi'n ceisio ei esbonio'n uchel, byddwch chi'n sylweddoli'n sydyn iawn yr hyn rydych chi'n ei ddeall ac nad ydych chi'n ei ddeall.
Gallwch wneud hyn drwy esbonio eich gwybodaeth i ffrind neu aelod o'r teulu neu drwy esgus eich bod yn addysgu dosbarth.
5. Trin eich adolygu fel gêm
Gallech chi roi cwis i'ch hun drwy ddefnyddio cardiau fflach, defnyddio apiau fel Quizlet, neu hyd yn oed wneud pethau'n gystadleuol drwy amseru eich hun.
Er enghraifft, sawl diffiniad allwch chi ei gael yn iawn mewn 2 funud? Allwch chi guro eich sgôr ers ddoe? Mae ymdeimlad bach o her yn gwneud i'r adolygu deimlo'n llai fel tasg ac yn fwy fel rhywbeth rydych chi am wella ynddo.
Am fwy o gyngor adolygu, ewch am olwg ar ein blogiau cefnogi myfyrwyr.