Sut i wella cadw cof wrth adolygu at arholiadau
Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi'i brofi: treulio oriau'n adolygu, teimlo'n hyderus ar y pryd, ond mewn ychydig ddyddiau mae'n teimlo fel bod popeth wedi diflannu. Y broblem â chadw cof yw nad yw fel arfer yn ymwneud â faint fyddwch chi'n ei adolygu, ond pa mor effeithiol yw eich ymennydd am storio a galw'r wybodaeth honno i gof.
Yn y canllaw hwn, byddwn yn dadansoddi'r wyddoniaeth y tu ôl i gof ac yn rhannu strategaethau galw i gof ymarferol y gallwch chi ddechrau eu defnyddio yn syth.
P'un a ydych chi'n paratoi ar gyfer TGAU neu Safon Uwch gyda CBAC neu unrhyw fwrdd arholi arall, bydd y technegau hyn yn eich helpu i adolygu'n fwy clyfar ac i deimlo'n fwy hyderus yn sgil eich arholiadau.
Pam y gallech chi fod yn anghofio'r hyn rydych chi'n ei adolygu
Os ydych chi erioed wedi meddwl 'pam nad yw fy ngwaith adolygu'n aros yn y cof?', allwn ni addo nad chi yw'r unig un. Mae'n hollol normal anghofio'r hyn rydych chi'n ei adolygu – ond deall pam mae'n digwydd yw'r cam cyntaf i'w ddatrys.
Mae ambell i reswm pam y gall hyn fod yn digwydd...
Y gromlin anghofio
Un o'r prif resymau nad yw adolygu'n gweithio i rai pobl yw rhywbeth o'r enw'r gromlin anghofio, sy'n dangos ein bod yn anghofio gwybodaeth yn gyflym ar ôl ei ddysgu, yn enwedig os nad ydyn ni'n ailymweld. Mewn gwirionedd, gallwch chi golli cyfran o'r hyn rydych chi wedi'i adolygu mewn ychydig ddyddiau.
Dyma pam mai yn anaml mae'n gweithio i orfodi gormod y noson cyn arholiad. Heb ailymweld â gwybodaeth a'i atgyfnerthu, mae eich ymennydd yn tybio nad yw'n bwysig ac mae'n gadael iddo fynd yn angof.
Adolygu goddefol a gweithredol
Rheswm allweddol arall posibl nad yw eich adolygu'n gweithio yw'r math o adolygu rydych chi'n ei wneud.
Mae dau prif fath o adolygu – goddefol a gweithredol. Mae adolygu goddefol yn cynnwys ailddarllen nodiadau, aroleuo llyfrau neu wylio fideos adolygu heb brofi eich hun, er enghraifft. Er y gallai'r dulliau hyn deimlo'n gynhyrchiol, nid ydyn nhw'n gorfodi'r ymennydd i gadw gwybodaeth – sy'n hanfodol ar gyfer y cof.
I gyferbynnu, mae adolygu gweithredol (er enghraifft profi eich hun neu ddenfyddio cardiau fflach) yn cryfhau eich gallu i adalw gwybodaeth yn ddiweddarach. Os ydych chi'n defnyddio technegau goddefol gan fwyaf, mae'n rheswm mawr pam y gallech chi fod yn anghofio'r hyn rydych chi'n ei adolygu.
Ceisio dysgu gormod yn rhy gyflym
Gall ceisio adolygu gormod mewn un sesiwn hefyd danio'n ôl oherwydd bod capasiti cyfyngedig yn yr ymennydd ar gyfer prosesu gwybodaeth newydd, a phan fyddwch chi'n mynd heibio'r pwynt hwnnw, byddwch chi'n cael profiad o orlwytho gwybyddol.
Pan nad yw gwybodaeth yn cael ei phrosesu'n iawn, nid yw'n cael ei storio'n effeithiol yn y cof hirdymor. Yn hytrach, mae'n aros yn y cof tymor byr ac yn pylu'n gyflym. Mae hyn yn amlygu pam nad yw'n effeithiol gorfodi gormod o adolygu, oherwydd drwy orlwytho'r ymennydd, nid yw'n gallu cadw popeth, felly mae llawer ohono'n cael ei golli yn gynnar ar ôl gorffen adolygu.
Mae hyn oll yn ein harwain yn gyfleus at brif pwrpas y blog hwn...
7 techneg wedi'i phrofi i wella cadw cof
Os ydych chi am i'ch gwaith adolygu fod yn effeithiol, mae angen i chi ganolbwyntio ar sut mae eich ymennydd yn cadw ac yn galw gwybodaeth i gof.
Mae'r saith techneg canlynol wedi'u hategu gan wyddor gwybyddiaeth ac maent yn cael eu defnyddio gan fyfyrwyr perfformiad uchel gan eu bod yn cryfhau cof tymor hir – nid cydnabyddiaeth tymor byr yn unig.
1. Adolygu Gweithredol
Fel y crybwyllwyd uchod, mae adolygu gweithredol yn cynnwys profi eich hun yn hytrach nag ailddarllen nodiadau'n unig. Bob amser byddwch chi'n gorfodi eich ymennydd i alw gwybodaeth i gof, rydych chi'n cryfhau'r cof.
Sut i’w ddefnyddio:
- Creu cardiau fflach gyda chwestiynau ar un ochr ac atebion ar y llall
- Cuddio eich nodiadau ac ysgrifennu popeth allwch chi ei gofio
- Defnyddio cwestiynau ymarfer heb edrych ar atebion
2. Cyfuno elfennau gweledol a geiriau
Mae eich ymennydd yn prosesu gwybodaeth weledol a geiriol ar wahân, felly mae eu cyfuno nhw'n creu cysylltiadau cryfach yn y cof.
Felly, yn hytrach nag ysgrifennu nodiadau, beth am roi cynnig ar y canlynol:
- Diagramau a lluniadau wedi'u labelu
- Mapiau meddwl
- Amserlenni (ar gyfer hanes)
- Siartiau llif (ar gyfer prosesau)
3. Addysgu eraill
Os allwch chi ei addysgu, rydych chi wir yn ei ddeall. Mae gallu esbonio testun yn glir yn amlwg yn golygu nad ydych chi'n cydnabod gwybodaeth yn unig – rydych chi'n ei ddeall yn ddigon da i'w galw i gof a'i chymhwyso.
Mae sawl ffordd gallwch chi ymarfer hyn, er enghraifft, esbonio'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu i ffrind neu aelod o'r teulu, siarad eich drwy destun gam wrth gam, neu ymddwyn fel athro gyda bwrdd gwyn, fel y byddech chi'n cyflwyno gwers.
4. Ymarfer gyda chyn-bapurau
Yn ogystal â galw i gof, mantais enfawr arall o ddefnyddio cyn-bapurau yw rheoli amser. Os yn bosibl, ymarfer eu cwblhau dan amodau arholiad go iawn. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall pa mor hir i'w dreulio ar bob cwestiwn a meithrin hyder wrth amseru.
Mae rhagor o resymau pam y dylech ddefnyddio cyn-bapurau yn y blog hwn.
5. Rhannu darnau mawr o wybodaeth yn ddarnau hydrin
Dyma pam rydyn ni'n argymell yn gryf eich bod yn rhannu darnau mawr o wybodaeth yn rhannau bach sy'n haws eu deall a'u cofio.
Enghraifft dda ar gyfer bioleg fyddai rhannu testun fel y system cylchrediad dynol yn rhannau llai: y galon a'i siambrau, ei phibelli gwaed a'i llwybrau cylchrediad, mathau o gelloedd gwaed, a sut mae ocsigen a maetholion yn cael eu cludo. Fel hyn, gellir adolygu a chofio bob rhan yn unigol cyn eu cysylltu i'w deall yn gyflawn.
6. Ailymweld â gwybodaeth dros amser
Drwy adolygu cynnwys yn rheolaidd, byddwch chi'n atgyfnerthu eich cof ac yn symud gwybodaeth o'r fod tymor byr i'r tymor hir.
Y ffordd orau o wneud hyn yw adolygu testun y diwrnod rydych chi'n ei ddysgu, yna 2-3 diwrnod yn ddiweddarach, yna wythnos yn ddiweddarach, ac eto ar ôl pythefnos.
7. Defnyddio lliwiau
Yr awgrym olaf ar gyfer cadw cof wrth adolygu yw defnyddio lliwiau yn eich gwaith adolygu. Mae lliwiau'n gweithio oherwydd eu bod yn gwneud gwybodaeth yn fwy adnabyddus yn weledol, ac mae eich ymennydd yn fwy tebygol o gofio rhywbeth sy'n sefyll allan o gymharu â nodiadau du a gwyn.
Roedd un astudiaeth wedi canfod bod y lliw coch wedi gwella cadw cof i thua 56%–57%, o gymharu â thua 20–22% ar gyfer testun du.
Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi, er y gall lliwiau ategu gwaith adolygu, mae fwyaf effeithiol o'i gyfuno â thechnegau gweithredol megis hunan-brofi ac adolygu gweithredol.
Gobeithio fod y blog hwn wedi'ch helpu chi i ddeall pam nad yw adolygu'n effeithiol weithiau ac, yn bwysicach na hynny, sut gallwch chi wella eich proses o gadw cof gan ddefnyddio technegau wedi'u profi.
Am fwy o gyngor adolygu, ewch am olwg ar ein blogiau cefnogi myfyrwyr.