Cymwysterau 14-16 Cenedlaethol gyda CBAC

Mae Addysg yng Nghymru yn esblygu – cymerwch y cam nesaf gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo.

 

Bydd y cynnig llawn o gymwysterau 14-16 Cenedlaethol i Gymru yn barod i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027 ymlaen.

 

Fel darparwr cymwysterau mwyaf a mwyaf sefydledig Cymru, mae gan CBAC yr arbenigedd a'r profiad i'ch cefnogi drwy'r newid a chyflwyno cyfleoedd newydd a chyffrous i'ch dysgwyr.

 

Rydyn ni'n adeiladu ar bopeth a ddysgwyd wrth ddatblygu ein cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru i gynnig amrywiaeth gynhwysol, eang a chytbwys o gymwysterau sy'n galluogi ffyrdd gwahanol o ddysgu a datblygu sgiliau.

 

Bydd eich dysgwyr yn elwa ar fwy o ddewis nag erioed o'r blaen – o gymwysterau Sylfaen newydd i gymwysterau TAAU ymarferol, unedau Sgiliau byr, ac astudiaeth annibynnol o'r Project Personol

Ein cymwysterau newydd


> Cymhwysterau Sylfaen

> TAAU

> Cyfres Sgiliau a Phroject Personol

Pam dewis CBAC ar gyfer cymwysterau 14-16 Cenedlaethol?

  • Mae gan CBAC dros 75 mlynedd o brofiad yn datblygu cymwysterau yn benodol i Gymru. Rydyn ni'n gweithio gyda dros 300 o ysgolion yng Nghymru bob blwyddyn, gan ddarparu asesiadau cywir, teg a hygyrch i bron 200,000 o ddysgwyr bob blwyddyn.
  • Rydyn ni wedi cydweithio ag athrawon a rhanddeiliaid o'r byd addysg i gyd-greu ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 1 a Thon 2, a byddwn yn cymryd popeth rydyn ni wedi'i ddysgu o'r broses hon i sicrhau bod y cymwysterau Ton 3 hyn yn berffaith addas i athrawon a dysgwyr fel ei gilydd.
  • Mae pob cymhwyster yn cael ei greu'n ddwyieithog o'r gwaelod i fyny, yn benodol i ddysgwyr yng Nghymru.
  • Byddwn yn darparu'r pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth y byddech chi'n ei ddisgwyl gan CBAC, gan gynnwys adnoddau digidol o ansawdd uchel a chyfleoedd dysgu proffesiynol dan arweiniad arbenigwyr.

Cymwysterau Sylfaen

Bydd amrywiaeth newydd o Gymwysterau Sylfaen cysylltiedig â gwaith a chyffredinol CBAC yn darparu llwybr cynhwysol a hygyrch i ddysgwyr symud ymlaen o Lefel Mynediad a Lefel 1 i TGAU neu TAAU. 


Gellir eu hastudio hefyd ochr yn ochr â'n cymwysterau Cyfres Sgiliau newydd. 

Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol Cymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Technoleg Ddigidol
  • English
  • Celfyddydau Mynegiannol
  • Dyniaethau
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Cymraeg
  • Cymraeg Craidd
  • Y Gwyddorau 
  • Amgylchedd Adeiledig
  • Cynhyrchu creadigol a'r cyfryngau, a thechnoleg
  • Peirianneg
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Adwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid
  • Chwaraeon, hamdden ac adloniant
  • Teithio a thwristiaeth


TAAU 

Mae TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) yn fath newydd sbon o gymhwyster Lefel 1/2 sy'n canolbwyntio ar waith i bobl ifanc 14-16 oed. 

Mae pob cymhwyster TAAU hynod ymarferol yn canolbwyntio ar ddiwydiant hanfodol, a'i nod yw sicrhau bod dysgwyr yn meithrin y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i symud ymlaen i astudiaeth ôl-16, dysgu seiliedig ar waith neu gyflogaeth.


Gellir sefyll cymwysterau TAAU fel opsiwn arall neu i gyd-fynd â chymwysterau TGAU, a gellir eu hastudio ochr yn ochr â'n cymwysterau Cyfres Sgiliau newydd. 

  • Adwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid
  • Amgylchedd Adeiledig
  • Celfyddydau Perfformio
  • Chwaraeon, hamdden ac adloniant
  • Cynhyrchu creadigol a'r cyfryngau, a thechnoleg
  • Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Peirianneg
  • Teithio a thwristiaeth




Cyfres Sgiliau a Phroject Personol


Cyfres Sgiliau


Mae'r Gyfres Sgiliau yn cynnig cyfle i ddysgwyr ddewis o blith amrywiaeth eang o 28 o gymwysterau Sgiliau Bywyd ac 19 o gymwysterau Sgiliau Gwaith.

Mae'r unedau byr hyn wedi'u cynllunio i gyd-fynd â'n cymwysterau Ton 3 eraill, a gellir eu hastudio ar draws amrywiaeth o lefelau o Lefel Mynediad i Lefel 2. 


Rydym yn cydweithio â sefydliadau mawr ar draws Cymru a thu hwnt i greu amrywiaeth o unedau perthnasol a diddorol a fydd yn rhoi sgiliau a gwybodaeth hanfodol i ddysgwyr ar gyfer bywyd a'r gweithle.


Project Personol 


Mae'r Project Personol yn esblygiad o'r Dystysgrif Her Sgiliau, ac yn cynnig cyfle i ddysgwyr gwblhau project dysgu annibynnol ar destun o'u dewis gyda'r nod o ddatblygu ac arddangos pedwar sgìl allweddol:

  • cynllunio a threfnu
  • creadigrwydd ac arloesi
  • meddwl yn feirniadol a datrys problemau
  • effeithiolrwydd personol

Mae'r Project Personol wedi'i gynllunio i'w wneud ochr yn ochr â'n cymwysterau Sylfaen, TGAU, TAAU a/neu unedau Cyfres Sgiliau newydd.