Ffiniau Graddau

Beth yw ffiniau graddau? 

 

Ffiniau graddau yw'r nifer isaf o farciau y mae angen i ddysgwr ei ennill ar gyfer pob gradd. Er bod papurau arholiad yn cael eu hysgrifennu i'r un lefel o anhawster, maen nhw'n amrywio bob blwyddyn. Mae ffiniau graddau yn sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn yr un radd ar gyfer yr un lefel o berfformiad, pryd bynnag caiff yr arholiad ei sefyll.

Pennir ffiniau graddau yn dilyn y broses ddyfarnu a byddan nhw’n cael eu rhyddhau ar y diwrnodau canlyniadau.

 

Gallwch weld ffiniau graddau eich cymwysterau ar Ddiwrnod y Canlyniadau o'n gwefan.