Cyn-bapurau a chynlluniau marcio

Mae defnyddio cyn-bapurau yn rhywbeth y mae'n rhaid ei wneud wrth adolygu! Byddan nhw'n rhoi dealltwriaeth i chi o sut mae'r arholiad yn gweithio a'r math o gwestiynau i'w disgwyl. Maen nhw hefyd yn ffordd wych o brofi eich hunain, gan bwysleisio eich cryfderau a'r meysydd y gallech chi eu gwella.

 

Beth bynnag yw'r pwnc – mae popeth yno i chi! Porwch drwy ein llyfrgell o gyn-bapurau a chynlluniau marcio drwy ddewis y pwnc perthnasol.

Ydych chi wedi edrych ar y Banc Cwestiynau? Mae'n rhad ac am ddim a gallwch chi ei ddefnyddio i ddewis a dethol cwestiynau o filoedd o gwestiynau arholiadau'r gorffennol. Dewch o hyd i’r cwestiynau y mae eu hangen arnoch chi, ychwanegwch nhw at eich papur ac yna allforiwch nhw gyda'r cynllun marcio perthnasol a sylwadau'r arholwr.


Methu dod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano? Cysylltwch â'n harbenigwyr pwnc neu anfonwch neges e-bost aton ni ar gwybodaeth@cbac.co.uk.