5 Rheswm y dylech chi ddefnyddio cyn-bapurau wrth adolygu

5 Rheswm y dylech chi ddefnyddio cyn-bapurau wrth adolygu

Mae rheswm pam mae eich athrawon bob amser yn eich annog i ddefnyddio cyn-bapurau wrth adolygu. Dyma'r 5 prif reswm.  

 

1. Arfer â strwythur papur a'r iaith sy'n cael ei defnyddio.  

Mae'n debyg eich bod eisoes wedi arfer â'r eirfa o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, ond mae'n syniad da i ddod yn gyfarwydd â chyn-bapurau er mwyn gwybod sut mae popeth wedi'i osod ac fel nad oes angen poeni amdano ar ddiwrnod yr arholiad.  

Mewn rhai arholiadau, efallai y bydd rhywfaint o wybodaeth ychwanegol yn cael ei hargraffu yn y papur megis hafaliadau ar gyfer y gwyddorau a mathemateg. Eto, mae'n syniad da gwybod lle bydd y rhain yn y papur.  

Ar ôl cwblhau un neu ddau o gyn-bapurau byddwch yn ymwybodol o osodiad y cwestiynau. Yn gyffredinol, bydd y papur yn cychwyn â chwestiynau marciau is ac yn mynd yn raddol fwy heriol. Mae'n ddefnyddiol gwybod hynny fel nad ydych yn ysgrifennu traethawd o ateb ar gyfer cwestiwn 2 farc gan fethu â chaniatáu digon o amser i ateb cwestiwn 10 marc yn ddiweddarach yn y papur.  

 

2. Gweithio ar reoli eich amser  

Os yw'n bosibl, mae'n well ymarfer cwblhau'r papur dan amgylchiadau arholiad, a dod o hyd i fan tawel lle na fydd modd tarfu arnoch chi. Manteision cwblhau'r papur y ffordd hon, yw y gallwch chi gyfrifo faint o amser fydd gennych ar gyfer pob cwestiwn. Gallwch chi hyd yn oed ofyn i riant, brawd, chwaer neu ffrind ymddwyn fel goruchwyliwr i roi gwybod faint o amser sydd gennych chi ar ôl.  

 

3. Deall dyraniad marciau a'r cynllun marcio 

Ar ein gwefan gallwch lwytho cynllun marcio i lawr ar gyfer pob cyn-bapur. Fel hyn gallwch chi farcio eich gwaith eich hun a gweld lle mae modd ennill marciau.  

Byddwch chi'n deall y mathau gwahanol o atebion sy'n ofynnol a gallwch chi ddefnyddio hyn i strwythuro eich atebion. Gan ddefnyddio'r cynllun marcio, gallwch fireinio'ch sgiliau ymateb a fydd yn y pen draw yn arbed amser i chi yn eich arholiad.  

 

4. Ffordd dda o ymarfer ysgrifennu 

Os yw eich holl nodiadau adolygu mewn pwyntiau bwled, mae cwblhau cyn-bapurau yn ffordd dda o ymarfer rhoi'r wybodaeth honno rydych chi wedi'i dysgu mewn paragraffau. Mae gallu cyfathrebu eich gwybodaeth yn glir yr un mor bwysig â gwybod y wybodaeth ei hun.  

 

5. Dadansoddi  

Ar ôl gorffen papur, gallwch chi farcio eich gwaith eich hun gan ddefnyddio'r cynllun marcio ac yna dadansoddi eich canlyniad.  

Trwy wneud hyn, gallwch chi benderfynu pa feysydd o'r pwnc y gallwch chi eu hateb yn hyderus a beth fyddai'n syniad da i chi dreulio mwy o amser yn ei adolygu. Fel hyn, gallwch chi fod yn hyblyg wrth adolygu a newid eich amserlen yn ôl y gofyn.  

Peidiwch â digalonni os na fyddwch chi'n gwneud cystal â'r disgwyl ar ôl cwblhau cyn-bapurau. Papurau ymarfer yw'r rhain ac maen nhw'n ymarfer dysgu gwych ar gyfer y diwrnod mawr. Dysgwch o'r hyn a wnewch chi'n anghywir a rhowch gynnig arall arni.  

 

Os nad ydych chi'n gwybod lle i ddod o hyd i'r cyn-bapurau ar ein gwefan, dilynwch y cyswllt hwn a chwiliwch am eich pwnc a'ch lefel.