Llun agos o ddysgwr yn dal canlyniadau arholiadau

Diwrnod Canlyniadau Safon Uwch: Beth os nad ydw i'n ennill y graddau angenrheidiol ar gyfer y Brifysgol?

Gall diwrnod y canlyniadau deimlo fel moment enfawr, yn enwedig pan fyddwch chi wedi bod yn gweithio tuag at fynd i'r brifysgol. 

Mae'n hollol normal teimlo'n gyffrous ond hefyd yn nerfus wrth i chi agor eich canlyniadau a dechrau meddwl am yr hyn sydd i ddod.  

Ond os nad yw pethau'n mynd fel yr oeddech chi'n gobeithio iddynt fynd, ac nad ydych chi'n ennill y graddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y brifysgol, nid ydych ar eich pen eich hun ac nid dyma ddiwedd y ffordd. Mae digon o opsiynau o'ch blaen o hyd, ac mae'r llwybr cywir i chi allan yna o hyd. 

Dyma ganllaw i'ch helpu i ddarganfod beth gallai eich camau nesaf fod. 

1. Peidiwch a chynhyrfu a gwiriwch eich statws UCAS yn gyntaf 

Os ydych chi'n agor eich canlyniadau ac yn sylweddoli nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol ar gyfer eich cynnig prifysgol, ceisiwch beidio â chynhyrfu a gwiriwch eich statws UCAS yn ofalus. 

Hyd yn oed os nad yw pethau'n mynd fel y cynlluniwyd, cofiwch nad diwrnod y canlyniadau yw diwedd eich opsiynau. Mae digon o lwybrau ar gael o hyd, sy'n dod â ni at ein hail bwynt… 

2. Archwilio clirio UCAS 

Os nad ydych chi'n cael eich derbyn gan eich prifysgol ddewisol, gall clirio UCAS roi cyfle arall i chi ddod o hyd i gwrs. Peidiwch â chael eich llethu na fod dan straen oherwydd hyn, mae'n rhan arferol iawn o ddiwrnod canlyniadau, ac mae miloedd o fyfyrwyr yn ei ddefnyddio bob blwyddyn i sicrhau lle yn y brifysgol. 

Felly, beth yn union mae clirio UCAS yn ei olygu? Yn fyr, mae Clirio yn ail gyfle i fyfyrwyr gael lle mewn prifysgol os nad oeddent wedi derbyn cynigion gan eu dewisiadau gwreiddiol, eisiau newid cwrs/prifysgol neu sydd wedi cyflawni graddau uwch na'r disgwyl ac yn dymuno dilyn cwrs gyda gofynion mynediad uwch. 

Ewch ar dudalen UCAS Clearing am gyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf. 

3. Gwneud cais am adolygiad o farcio 

Os ydych chi'n meddwl nad yw canlyniadau eich arholiadau yn adlewyrchu sut y gwnaethoch berfformio, efallai y byddwch yn gallu gofyn am Adolygiad o'r Marcio. 

Adolygiad o'r Marcio yw pan mae eich papur arholiad yn cael ei wirio eto i sicrhau bod yr holl farciau wedi'u hadio at ei gilydd yn gywir ac nad oes tudalennau na chwestiynau wedi'u colli. Mae hyn hefyd yn mynd ychydig ymhellach ac yn gwirio ar a oedd y marcio ei hun yn gywir yn ôl cynllun marciau'r bwrdd arholi. 

Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol, er y gall marciau fynd i fyny, gallant hefyd fynd i lawr ar ôl adolygu.  

Felly, er y gall adolygiad o farcio fod yn opsiwn defnyddiol os ydych chi'n wirioneddol gredu bod rhywbeth o'i le, dylai fod yn benderfyniad wedi'i ystyried yn ofalus yn hytrach na cham nesaf awtomatig.


4. Meddyliwch am ailsefyll yr arholiadau  
Os nad oeddech chi wedi ennill y graddau roeddech chi'n gobeithio eu cael, gallai ailsefyll eich arholiadau fod yn gam nesaf cadarnhaol.  

Siaradwch â'ch ysgol neu'ch coleg i weld pa gefnogaeth y gallant ei chynnig ar gyfer ailsefyll. 

5. Archwilio llwybrau eraill 

 Mae'r Brifysgol yn aml yn cael ei weld fel y "prif" lwybr ar ôl y chweched dosbarth neu'r coleg, ond nid yw'r unig opsiwn sydd ar gael o bell ffordd.  

Os nad yw diwrnod y canlyniadau yn mynd y ffordd yr oeddech chi'n ei ddisgwyl, gall archwilio llwybrau eraill agor cyfleoedd a allai weddu i'ch sgiliau a'ch diddordebau hyd yn oed yn well. 

Er enghraifft: 

  • Prentisiaethau – I rai myfyrwyr, mae prentisiaethau yn ddewis arall gwych, sy'n eich galluogi i ennill profiad ymarferol mewn swydd go iawn tra hefyd yn ennill cymwysterau a chael eich talu. 
     

  • Blwyddyn sylfaen – Llwybr arall i'w ystyried yw blwyddyn sylfaen, sydd wedi'i gynllunio i helpu myfyrwyr i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen cyn symud ymlaen i radd prifysgol lawn. 
     

  • Cyrsiau coleg a chymwysterau galwedigaethol – Gall y rhain hefyd helpu myfyrwyr i symud tuag at yrfaoedd penodol neu gyfleoedd i astudio yn y dyfodol. 

6. Cymryd blwyddyn i ffwrdd 

Os nad ydych chi'n siŵr beth yw'r cam nesaf cywir, mae hynny'n hollol iawn! Gallai cymryd blwyddyn i ffwrdd roi'r amser a'r lle i chi ailystyried eich camau nesaf heb frysio i mewn i benderfyniad. 

Gall blwyddyn i ffwrdd fod yn gyfle gwerthfawr ar gyfer twf personol ac ennill profiad cyn symud ymlaen i'r brifysgol neu yrfa. 

Gallai blwyddyn i ffwrdd gynnwys: 

  • Teithio neu weithio dramor 

  • Gwirfoddoli 

  • Dysgu sgiliau newydd neu ennill cymwysterau newydd 

  • Cael profiad gwaith
     

Nid oes rhaid i chi ddatrys hyn ar eich pen eich hun

Cofiwch fod yna bobl o'ch cwmpas a all eich helpu i ystyried pethau a'ch tywys tuag at y cam nesaf cywir. 

Gall siarad ag athro neu gynghorydd gyrfaoedd fod yn ddefnyddiol iawn oherwydd eu bod yn deall yr opsiynau sydd ar gael ar ôl diwrnod y canlyniadau. 

Gall eich rhieni neu ofalwyr hefyd fod yn ffynhonnell wych o gefnogaeth, ac os nad oes ganddynt yr holl atebion, gallant eich helpu drwy drafod opsiynau a rhoi sicrwydd i chi pan fydd pethau'n teimlo'n ansicr. 

 

Os oedd y blog hwn yn ddefnyddiol i chi, mae gennym lawer mwy o awgrymiadau arholiadau ac adolygu yn ein blog cefnogi myfyrwyr, gan gynnwys testunau fel 'Wedi diflasu ar adolygu? 5 awgrym i wneud adolygu yn hwyl', 'Sut i adolygu heb golli'r gallu i ganolbwyntio: Ein 6 awgrym gorau' a '10 Awgrym gwych ar gyfer y noson cyn eich arholiad'.