- Cwestiynau Cyffredin
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- TAAU gyda CBAC
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- TAAU gyda CBAC
- Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- TAAU gyda CBAC
- Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol
- Cymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- TAAU gyda CBAC
- Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol
- Cymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith
- - Eich cefnogi gyda'n Cymwysterau Ton 3
Rydym wrthi'n datblygu pecyn cynhwysfawr i gefnogi athrawon a dysgwyr gyda'n hamrywiaeth newydd o gymwysterau, i'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027.
Bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd dysgu proffesiynol rhad ac am ddim wedi'u harwain gan arbenigwyr, a chyfres ddiguro o adnoddau digidol o ansawdd uchel.
Cyfleoedd Dysgu Proffesiynol
Bydd CBAC yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu proffesiynol rhad ac am ddim ar gyfer ein cymwysterau TAAU, Sylfaen, y Gyfres Sgiliau a Phroject Personol.
Mae'r cyfleoedd hyn wedi'u datblygu mewn ymateb i adborth gan ganolfannau ledled Cymru. Byddant ar gael o fis Gorffennaf 2026 ac yn cynnwys y canlynol:
Deunyddiau Dysgu Proffesiynol Ar-alw
-
Wedi'u recordio ymlaen llaw gan arbenigwyr pwnc
-
Cwbl ddwyieithog
-
Hygyrch trwy Porth CBAC
Cyfarfodydd Fforwm Pwnc fesul Tymor
-
Digwyddiadau byw ar-lein
-
Er mwyn gofyn cwestiynau i arbenigwyr
Adnoddau Digidol
Mae ein Tîm Adnoddau Digidol wrthi'n datblygu amrywiaeth o adnoddau ar-lein sy'n rhad ac am ddim ac yn ddwyieithog i gefnogi ein cymwysterau newydd.
Bydd yr adnoddau newydd hyn yn cael eu cyhoeddi fesul cam gan ddechrau o ddiwedd yr hydref 2026, a bydd y gyfres lawn ar gael erbyn haf 2027.
Bydd modd golygu'r holl adnoddau addysgu, a fydd yn galluogi defnyddwyr i'w haddasu i weddu orau i amrywiaeth eang o ddulliau addysgu. Byddant yn cynnwys:
TAAU
-
Unedau Dysgu Cyfunol
-
Trefnwyr Gwybodaeth
-
Cynlluniau gwaith a awgrymir
Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol a Chymwysterau Cysylltiedig â Gwaith
-
Gweithgareddau o flaen dosbarth
-
Nodiadau i Athrawon
-
Taflenni gwaith
-
Cynlluniau gwaith a awgrymir
Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
-
Trefnwyr sgiliau
-
Cyflwyniadau PowerPoint
-
Dogfennau canllawiau
![]() |
![]() |
|
“Rydym yn falch o gynnig pecyn pwrpasol a chynhwysfawr o gyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon ledled Cymru, a fydd yn eu helpu i gyflwyno ein cymwysterau newydd yn hyderus. |
"Rydym yn falch o'r datblygiad sydd ar y gweill i ddarparu cefnogaeth lawn i athrawon a dysgwyr sy'n cyflwyno ein cymwysterau Ton 3. |
|
Nia Jones |
Melanie Blount Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Adnoddau Addysgol |

