Dysgu Proffesiynol RHAD AC AM DDIM i gefnogi cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3 wedi'i gadarnhau

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi pecyn cynhwysfawr o gyfleoedd dysgu proffesiynol (DP) RHAD AC AM DDIM i gefnogi'r gwaith o gyflwyno ein cyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru, gan gynnwys cymwysterau TAAU, Sylfaen, y Gyfres Sgiliau a Phroject Personol. 

Wedi'u cynllunio mewn ymateb i adborth gan ganolfannau ledled Cymru, bydd y deunyddiau dwyieithog ar-lein hyn ar gael ar alw, gan ganiatáu i ymarferwyr gael mynediad at gefnogaeth ar adeg sy'n gyfleus iddynt. Bydd y deunyddiau, wedi'u recordio ymlaen llaw gan arbenigwyr pwnc hyfforddedig, yn cefnogi cymwysterau a fydd yn cael eu haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027. Hefyd, bydd cyfleoedd i athrawon pwnc ymuno â chyfarfodydd Fforymau Pwnc ar-lein hwyrnos bob tymor i ofyn cwestiynau i'n harbenigwyr a rhwydweithio â chydweithwyr/canolfannau eraill.

 

Wrth sôn am y lansiad, dywedodd Nia Jones, Rheolwr Dysgu Proffesiynol:

"Rydym yn falch o gynnig pecyn pwrpasol a chynhwysfawr o gyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon ledled Cymru, a fydd yn eu helpu i gyflwyno ein cymwysterau newydd yn hyderus. 

Yn seiliedig ar adborth gan ganolfannau, rydym yn cyflwyno deunyddiau addasadwy a fydd ar gael ar alw, y bydd ymarferwyr yn gallu cael mynediad atynt pan fydd yn gyfleus iddynt. Bydd pob adnodd yn cael ei gyflwyno gan arbenigwr pwnc ac yn cael ei gefnogi gan amrywiaeth eang o ddeunyddiau ategol. Yn ogystal, bydd ein timau pwnc yn parhau i roi cyngor ac arweiniad ymarferol drwy ein rhwydweithiau Fforymau Pwnc." 

Cefnogaeth wedi'i deilwra ar gyfer pob cymhwyster 

Bydd deunyddiau DP wedi'u recordio ymlaen llaw ar gael ar gyfer yr holl gymwysterau TAAU, Sylfaen, Cyfres Sgiliau a Phroject Personol, ac ar gyfer pob lefel. Bydd y rhain yn arwain ymarferwyr drwy ofynion y manylebau, gan dynnu sylw at gynnwys allweddol a chynnig awgrymiadau ar gyfer cyflwyno'r cymwysterau'n effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. 

Bydd y set gyntaf o ddeunyddiau yn cael ei chyhoeddi o dymor yr haf a byddant ar gael ar ein safle Porth diogel. 

Cael y wybodaeth ddiweddaraf 

Bydd y rhaglen Dysgu Proffesiynol lawn ar gyfer 2026/27 yn cael ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeunyddiau DP newydd, digwyddiadau, adnoddau ac ati yn syth i'ch mewnflwch, tanysgrifiwch i'n rhestr bostio. 

I weld y newyddion, cyfleoedd a Chwestiynau Cyffredin diweddaraf sy'n ymwneud â'r cymwysterau Ton 3 newydd, ewch i'r adran 'Yn arbennig i Gymru. Yn barod i'r byd' ar ein gwefan, sy'n cynnwys amrywiaeth eang o ddeunyddiau ac adnoddau cefnogi.