Adolygiad Safon Uwch Busnes yng Nghymru

Cefndir a phwrpas 

Fis Mehefin 2023, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru feini prawf cymeradwyo ar gyfer cymwysterau TGAU a Lefel 2 newydd. Fel rhan o'r broses hon, gofynnwyd i CBAC adolygu cymwysterau UG a Safon Uwch cyfredol i sicrhau eu bod yn alinio â'r cymwysterau TGAU diwygiedig ac yn parhau i fod yn berthnasol. Nodwyd Busnes fel un o'r pynciau â'r angen mwyaf i'w hadolygu, yng nghyd-destun adolygiad wedi'i dargedu yn hytrach na diwygiad llawn. 

Cynhaliwyd dau gyfarfod rhwng rhanddeiliaid ym mis Tachwedd 2025 gyda phedwar penodai Busnes i drafod newidiadau posibl i'r fanyleb UG a Safon Uwch Busnes. Roedd y trafodaethau hyn wedi llywio datblygiad diwygiad arfaethedig i'r fanyleb a gafodd ei adolygu'n annibynnol gan dri athro cyfredol.   

Nid yw strwythur arfaethedig y fanyleb wedi newid. Mae'r rhan fwyaf o'r cynnwys yn cael ei gadw, gydag addasiadau'n canolbwyntio ar berthnasedd, dyfnder, a hydrinedd. 

Byddwn yn cynnal cyfarfod ar-lein i gyflawni'r newidiadau arfaethedig a'r rhesymeg drostynt ddydd Iau 18 Mehefin 4-5.30pm. Gallwch gadw eich lle yma:

Adolygu Safon Uwch Busnes- Presenoldeb 
 

Mae eich adborth yn hanfodol: Arolwg ymgynghori 

   

Rydyn ni'n annog athrawon a darlithwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Mae eich adborth yn hanfodol i sicrhau bod y cymwysterau hyn yn gadarn, yn berthnasol ac yn bodloni anghenion dysgwyr. Drwy rannu eich safbwyntiau a'ch arbenigedd, byddwch chi'n cyfrannu'n uniongyrchol at adolygiad o'r UG a Safon Uwch Busnes i'w haddysgu am y tro cyntaf yn 2027.

  
Cyn cynnal yr arolwg, gallwch ddarllen y ddogfen hon sy'n amlinellu'r newidiadau arfaethedig.


Cwblhewch ein harolwg heddiw.

 

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar ddydd Llun 22 Mehefin 9am.