Yn ôl i'r ysgol

Does dim gwadu eich bod wedi bod drwy gyfnod rhyfedd a bod dwy flynedd o darfu wedi bod ar eich dysgu. Mae'n normal i deimlo'n nerfus am fynd yn ôl i'r ysgol ar ôl gwyliau'r haf. Rydyn ni yma i'ch helpu i deimlo'n barod ac i fynd yn ôl i'r drefn arferol gyda digonedd o adnoddau a phethau defnyddiol i'w llwytho i lawr. Rydyn ni hefyd yn rhannu amrywiaeth o adnoddau a chyngor ar ein cyfrif Instagram. 

 

Mae ein Timau wedi bod yn brysur yn creu cyfoeth o adnoddau a deunyddiau digidol i gefnogi eich dysgu drwy ein cymwysterau. Mae'r rhain yn berffaith ar gyfer helpu gydag adolygu a dysgu parhaus. 

 

Rydym hefyd wedi creu amrywiaeth o gynllunwyr i'ch helpu i drefnu eich gwaith, o gynllunwyr yn ystod yr wythnos i gardiau fflach ar gyfer adolygu. Llwythwch yr hyn sydd ei angen arnoch i lawr isod.