Llesiant: Ymarfer Corff, Adolygu a Chi

Llesiant: Ymarfer Corff, Adolygu a Chi

Mae pawb yn gwybod bod gwneud ymarfer corff yn gallu helpu iechyd meddwl pobl, ond ydych chi wedi meddwl erioed a fyddai’n gallu eich helpu chi wrth i chi adolygu a dysgu?

Rydyn ni wedi siarad gyda Sean Williams, Arbenigwr Pwnc Addysg Gorfforol CBAC. Roedden ni am gael gwybod sut mae e’n teimlo am wneud ymarfer corff yn rhan o’ch trefn baratoi ar gyfer arholiad.

Ymarfer a’ch ymennydd

Yn amlwg, mae’r tymor arholiadau yn gyfnod llawn straen i lawer o fyfyrwyr. Mae pwysau arnyn nhw i gael y graddau, dyddiadau cau ar y gorwel a gall fod yn waith caled treulio amser yn adolygu. Byddai canfod ffordd o gael gwared ar rywfaint o’r straen hwnnw wrth fodd y rhan fwyaf o bobl felly. A’r ffordd hawsaf o wneud hynny? Mae’n syml iawn – gwneud rhyw sesiwn ffitrwydd gyflym.

Wrth i ni ymarfer, mae’r ymennydd yn cynhyrchu llawer o gemegion ac mae’r rhain yn ffordd dda o wella ein perfformiad yn feddyliol. Mae serotonin a dopamin yn ddau o’r cemegion hyn ac yn adnabyddus am fod yn gemegion ‘teimlo’n well’. Maen nhw’n cael eu cysylltu â gwella’r hwyliau a gwella’r canolbwyntio. Hefyd, mae ymarfer yn cynyddu lefelau’r hormonau a llif y gwaed i’r ymennydd. Drwy gyfuno’r rhain i gyd, gallwch fod yn hyderus bod rhedeg o gwmpas y parc am gyfnod byr yn mynd i fod o fudd mawr i’ch perfformiad meddyliol wrth i chi adolygu.

Ymarfer a’ch cof

Y cof yw un o’r prif elfennau yn ein hymennydd y byddwn ni’n dibynnu arno yn ystod ein sesiynau adolygu. Dangosodd astudiaethau bod ymarfer yn effeithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar y cof.

Un effaith wahanol mae symud yn rheolaidd yn ei chael ar y cof yw’r gallu i wneud maint yr hipocampws yn fwy; hwn yw’r rhan o’r ymennydd sy’n ymwneud â’r cof geiriol a dysgu. Un o’r effeithiau anuniongyrchol mae ymarfer yn ei chael ar yr ymennydd yw’r ffordd y bydd yn helpu i wella ansawdd eich cwsg. Bydd hynny wedyn yn gwella eich gweithredu gwybyddol.

Ymarfer a’ch egni

Yn ansicr o hyd am fanteision ymarfer yn ystod tymor yr arholiadau? Ydych chi’n poeni y bydd yr holl ymarfer yna’n eich gwneud chi’n rhy flinedig i adolygu? Dim peryg o hynny! Gall ymarfer wella eich lefelau egni, a rhoi’r gallu i chi barhau i ganolbwyntio. Bydd hynny’n eich ysgogi ac yn eich helpu i ganolbwyntio drwy gydol eich sesiynau adolygu.

Sut gallwch chi felly ymarfer i wella eich lefelau egni? Pa ymarfer penodol ddylech chi ei wneud? Unrhyw beth sy’n cynyddu cyfradd curiad eich calon ac yn gwneud i’r gwaed lifo; bydd hyn yn rhyddhau endorffinau a bydd eich lefelau egni’n codi. Cofiwch, nid oes angen gwneud unrhyw beth rhy ddwys, bydd gêm o b͏êl-droed neu dennis yn gweithio’n dda neu gall hyd yn oed dawnsio o gwmpas i rai o’ch hoff ganeuon wneud y tro i’r dim!

Ymarfer a’ch amserlen

Felly, beth am amrywio rhywfaint ar eich amserlen adolygu er mwyn cynnwys rhai gweithgareddau ffitrwydd yn rhan ohoni. Mae’n bwysig bod eich meddwl a’ch corff yn teimlo’n iawn ac yn barod ar gyfer eich arholiadau i ddod. Gweithiwch allan pa ymarferion sy’n gweithio orau i chi a cheisiwch wneud rhywfaint o ymarfer, hyd yn oed bob yn ail ddiwrnod. Efallai eich bod yn athletwr brwd yn barod neu dim ond yn cychwyn ar eich taith ymarfer – talwch ychydig o sylw i’r canllaw hwn a gobeithio y bydd yn eich rhoi ar ben ffordd wrth i chi fynd ati i adolygu.