Llesiant: Seicoleg Adolygu

Llesiant: Seicoleg Adolygu

Ydych chi erioed wedi meddwl beth yn union sy'n digwydd i'ch ymennydd wrth geisio  cofio pob un o'ch nodiadau adolygu? Cawsom sgwrs â Rachel Dodge, ein harbenigwr pwnc Seicoleg i wybod mwy am sut mae ein cof yn gweithio a sut gallwn ni gadw golwg ar ein llesiant yn ystod sesiynau adolygu trwm.

"Mae ymchwil yn dangos nad ailadrodd a darllen rhywbeth drosodd a throsodd yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod eich ymennydd yn cofio'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Er mwyn adolygu'n effeithiol mae angen i chi ddechrau'n gynnar a bod yn barod i ymrwymo iddo am y tymor hir."

Er mwyn eich helpu i roi'r cyngor hwn ar waith, rhoddodd Rachel awgrymiadau am y ffyrdd gorau o greu'r cysylltiadau hynny gyda'ch cof tymor hir, gan hefyd sicrhau cyflwr meddwl iach.

 

Byddwch yn greadigol gyda'ch nodiadau

Mae'n hawdd rhestru pethau ar dudalennau diddiwedd, ond mae defnyddio rhywfaint o greadigrwydd yn ffordd lawer mwy effeithiol o greu eich nodiadau adolygu. Defnyddiwch liwiau gwahanol, tynnwch luniau a defnyddiwch gymysgedd o offer print a digidol. Bydd hyn yn ysgogi'r ochr fwy gweledol o'ch ymennydd ac yn rhoi seibiant gwerthfawr i'ch meddwl (a'ch llaw!) o ysgrifennu diddiwedd.

 

Torrwch y wybodaeth i lawr

Pan fydd gennych lawer o wybodaeth i'w chofio, yn aml gall deimlo'n llethol a gall fod yn anodd gwybod lle i ddechrau. Un ffordd effeithiol o fynd i'r afael a'r teimlad llethol hwn yw drwy dorri'r cynnwys i gyd yn ddarnau llai. Pan fyddwch yn ei dorri i lawr, ceisiwch gysylltu delweddau, rhigymau neu batrymau nodedig ag ef. Drwy wneud hynny, byddwch yn cofio'n well.

 

Cyflwynwch eich gwaith i rywun arall

Cymerwch rywfaint o saib o ysgrifennu a chreu i gyfarfod â ffrind ac i edrych dros eich nodiadau. Cymerwch eich tro i ofyn cwestiynau i'ch gilydd am eich pwnc cyn ateb yn llawn gan ddefnyddio'r wybodaeth a gawsoch drwy adolygu. Mae hon yn ffordd wych o nodi pethau y mae angen i chi weithio ychydig bach mwy arnyn nhw i'w dysgu cyn diwrnod yr arholiad. Mae gallu rhannu syniadau a pherson arall a chyfathrebu unrhyw broblemau rydych yn eu cael yn ffyrdd gwych o dawelu unrhyw nerfau cyn arholiad ac yn mynd â chi  i'r meddylfryd "gyda'n gilydd" o beidio gorfod mynd drwy'r cyfnod pwysig hwn ar eich pen eich hun.

 

Profwch eich hun

Ar ôl i chi wneud defnydd da o'r holl dechnegau hyn, mae'n amser i brofi eich hun a gwneud yn siwr bod eich gwybodaeth a'ch amseriadau yn briodol cyn yr arholiad ei hun. Edrychwch ar ein hamrywiaeth o qyn-bapurau; pan fyddwch yn cwblhau'r papurau, ceisiwch gadw at amodau arholiad (diffoddwch eich ffôn a gosodwch amser penodol i chi ei gwblhau) gan fod hon yn ffordd wych o baratoi eich hun yn feddyliol  at yr hyn y gallwch ei ddisgwyl ar y diwrnod.

Bydd mwy o erthyglau llesiant pwnc benodol ar gael yn fuan wrth i ni gyhoeddi rhai gwahanol drwy gydol y tymor adolygu er mwyn eich paratoi at eich arholiadau.