- - DA (AI) mewn asesiadau - Canllawiau i fyfyrwyr
Gydag adnoddau Deallusrwydd Artiffisial (AI) fel ChatGPT, Gemini a Grammarly yn mynd yn fwy poblogaidd, mae'n bwysig i fyfyrwyr fod yn defnyddio'r adnoddau hyn yn gyfrifol yn eu hasesiadau yn yr ysgol neu goleg.
Beth yw DA (AI)?
Offer meddalwedd yw offer Deallusrwydd Artiffisial a all ysgrifennu testun, creu delweddau neu gynhyrchu syniadau i chi.
Er bod offer DA (AI) yn ddefnyddiol, mae'n bwysig eich bod yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth o'r pynciau rydych yn eu hastudio ac nad ydych yn dibynnu ar DA (AI). Rhaid i chi allu dangos mai eich gwaith annibynnol a'ch meddwl annibynnol eich hun yw eich asesiadau.
Pryd NAD allwch ddefnyddio offer DA (AI)?
Ni ddylech ddefnyddio offer DA (AI) o fewn unrhyw arholiad wedi'i amserlennu.
Ni ddylid defnyddio offer DA (AI) lle nad yw'r rheolau asesu yn eu caniatáu. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn deall pryd y gallwch a phryd na allwch ddefnyddio DA (AI) yn eich gwaith. Os ydych yn ansicr, gwiriwch gyda'ch athro/aseswr cyn dechrau eich gwaith.
Os ydych yn defnyddio offer DA (AI) lle nad yw'r rheolau yn caniatáu hyn, fe'i hystyrir yn fath o dwyllo a gelwir yn gamddefnydd DA (AI).
Mae camddefnydd DA (AI) yn digwydd pan fyddwch wedi defnyddio offer DA (AI) ac nad ydych wedi cyfeirio atynt na chydnabod eich bod wedi’i defnyddio wrth gyflwyno'ch gwaith.
Mae enghreifftiau o gamddefnyddio DA (AI) yn cynnwys:
- Copïo neu ail-adrodd adrannau neu ymatebion cyfan o gynnwys a gynhyrchwyd gan AI, sy'n arwain at gyflwyno gwaith a gynhyrchwyd gan DA (AI) fel eich gwaith eich hun.
- Defnyddio DA (AI) i gwblhau rhannau o asesiad fel nad yw'r gwaith yn adlewyrchu eich gwaith, dadansoddiad, gwerthusiad na chyfrifiadau eich hun.
- Methu â chydnabod neu gyfeirio at offer DA (AI) lle rydych wedi'u defnyddio fel ffynhonnell wybodaeth.
- Cyflwyno gwaith sydd wedi'i gopïo o gynnwys a gynhyrchwyd gan DA (AI) heb gyfeirio at y ffynhonnell wreiddiol na datgelu bod offeryn AI wedi'i ddefnyddio.
Dyma rai enghreifftiau, ac nid rhestr gynhwysfawr yw hon. Lle mae amheuaeth o gamddefnyddio DA (AI), cynhelir ymchwiliad i gamymddwyn. Gall cosbau a sancsiynau am gamddefnyddio DA (AI) gynnwys colli marciau ar gyfer eich asesiad, neu hyd yn oed anghymhwyso neu wahardd rhag cymryd cymwysterau.
Pryd alla i ddefnyddio AI?
Gallwch ddefnyddio DA (AI) yn y dosbarth, lle mae eich athrawon/aseswyr yn ei ganiatáu fel rhan o addysgu eich cwrs.
Gwiriwch bob amser gyda'ch athrawon/aseswyr a all ddweud wrthych a allwch ei ddefnyddio ai peidio. Mae'r rheolau'n wahanol ar gyfer gwahanol asesiadau a phynciau.
Pan fydd offeryn DA (AI) wedi'i ddefnyddio, rhaid i chi gyfeirio at yr offeryn DA (AI) a'r deunydd a gynhyrchwyd gan yr offeryn DA (AI) rydych chi wedi'i ddefnyddio yn eich gwaith. Os na fyddwch chi'n cyfeirio at ddefnyddio DA (AI), bydd yn cael ei ystyried yn twyllo.
Rhaid i chi hefyd sicrhau bod pob ffynhonnell wedi'i gwirio, gan fod offer DA (AI) yn aml yn cynhyrchu atebion a all ymddangos yn argyhoeddiadol ond sy'n cynnwys gwybodaeth anghywir neu ragfarnllyd, neu gyfeiriadau ffug at lyfrau/erthyglau.
Ar ôl i chi wirio'r ffynhonnell, rhaid i chi ei chydnabod yn y ffordd arferol.
Wrth gyfeirio at offeryn AI, rhaid i chi sicrhau eich bod yn gwneud y canlynol:
- Cynnwys yr offeryn DA (AI) rydych chi wedi'i ddefnyddio yn eich adran gyfeiriadau neu ar eich ffurflen datganiad dilysu.
- Rhoi'r dyddiad y cynhyrchodd yr offeryn DA (AI) y cynnwys.
- Rhoi manylion sut y gwnaethoch chi ei ddefnyddio.
- Cynnwys sgrin luniau o'r cynnwys a gynhyrchwyd gyda stamp dyddiad ac amser.
Er enghraifft: Defnyddiwyd ChatGPT 5.2, 25/01/2026 i gasglu ffynonellau astudiaeth ymchwil diweddar ar gyfer ymchwil prosiect.
Rhaid i chi gydnabod eich defnydd o offeryn DA (AI) a dangos yn glir sut y gwnaethoch chi ei ddefnyddio, gan ddogfennu'r broses wrth i chi fynd ymlaen.
Pan fyddwch chi'n cyflwyno'ch gwaith, bydd angen i chi lofnodi ffurflen ddatganiad yn dweud bod unrhyw beth heb gyfeiriad yn waith annibynnol eich hun. Mae eich llofnod ar y ffurflen ddatganiad yn dweud wrth CBAC/Eduqas eich bod chi'n dweud mai eich gwaith eich hun yw'r holl waith rydych chi'n ei gyflwyno, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnwys holl fanylion unrhyw ffynonellau rydych chi wedi'u defnyddio. Os ydych chi wedi defnyddio offeryn DA (AI) neu unrhyw ffynonellau eraill, rhaid i chi ddatgan eich bod chi wedi defnyddio'r rhain cyn llofnodi'r ffurflen ddatganiad.
|
Cofiwch:
|