Ar ddiwrnod yr arholiad

Mae eich holl waith caled wedi bod yn arwain at y diwrnod hwn – Diwrnod yr Arholiad. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynllunio ymlaen llaw, yn gwybod beth i'w wneud a beth i beidio â'i wneud, a'ch bod chi’n barod i wneud eich gorau glas. Pob lwc i chi! 

 

Awgrymiadau diwrnod yr arholiad

 

Mae'r foment fawr wedi cyrraedd, mae'n ddiwrnod yr arholiad a nawr yw eich cyfle i serennu. Peidiwch â gadael i'r gwaith caled fynd yn ofer drwy adael i'ch nerfau gael y gorau arnoch chi.

 

Rydyn ni wedi ysgrifennu erthygl blog yn llawn awgrymiadau i chi eu dilyn pan fyddwch chi yn y neuadd arholiadau. Gallwch chi ei darllen yma > 

 


 

Ar ôl eich arholiad

 

Peidiwch ag ail-fyw'r arholiad drosodd a throsodd unwaith y bydd wedi gorffen. Fydd cymharu atebion â'ch ffrindiau neu ar y cyfryngau cymdeithasol ddim yn helpu o gwbl. Rydych chi wedi gwneud eich gorau glas a dydych chi ddim yn gallu newid unrhyw beth nawr.

 

Gallai fod yn demtasiwn i ailddechrau adolygu ar gyfer yr arholiad nesaf yn syth, ond mae'n bwysig rhoi egwyl i'ch ymennydd. Dylech chi wobrwyo eich hunain drwy wneud rhywbeth sydd ddim byd i'w wneud ag arholiadau. Beth am fynd am ginio gyda ffrind? Cicio pêl yn y parc? Neu wrando ar eich hoff restr chwarae?

 

Meddyliwch cyn rhannu ar-lein!

 

Does dim dwywaith bod y cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn arf gwych i'ch helpu chi i adolygu a pharatoi ar gyfer eich arholiadau – ond dilynwch y rheolau.

 

  • Byddwch yn gyfrifol – byddwch yn ofalus iawn wrth drafod arholiadau ac asesiadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Os nad ydych chi’n siŵr beth allwch chi ei drafod neu ei rannu, gofynnwch i'ch athro bob amser.
  • Byddwch yn wyliadwrus – os ydych chi'n gweld deunydd sy'n ymwneud ag asesiad ar y cyfryngau cymdeithasol, rhaid i chi roi gwybod i'ch athro. Yna, bydd y mater yn cael ei ddatgan a'i ymchwilio.
  • Byddwch yn ymwybodol – gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod beth sy'n cyfrif fel camymddwyn a threuliwch amser yn dod yn gyfarwydd â’r rheolau. Darllenwch y canllaw hwn ar gyfer 'Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ac arholiadau'