Sut i ddewis eich opsiynau ym Mlwyddyn 9: Awgrymiadau ar gyfer myfyrwyr

Gall dewis eich opsiynau TGAU a galwedigaethol ym Mlwyddyn 9 deimlo fel penderfyniad mawr. Darganfyddwch ein prif awgrymiadau ar gyfer dewis pynciau sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau, eich cryfderau a'ch uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol, a manteisiwch i'r eithaf ar eich noson opsiynau.

Beth yw noson opsiynau?

Mae noson opsiynau yn garreg filltir gyffrous yn eich taith addysgol. Dyma'ch cyfle i ddechrau archwilio'r pynciau y gallech eu hastudio ym Mlynyddoedd 10 ac 11, darganfod beth sy'n eich diddori fwyaf, a meddwl am y pethau yr hoffech ddysgu mwy amdanynt.

Gyda dewis eang o bynciau TGAU a chymwysterau galwedigaethol ar gael, mae'n naturiol bod gennych gwestiynau. Pa bynciau ddylech chi eu dewis? A yw'n rhy gynnar i ddechrau meddwl am ba yrfa yr hoffech ei dilyn? A fydd eich ffrindiau yn yr un dosbarthiadau â chi?

Yn ystod noson opsiynau, cewch gyfle i ddysgu mwy am y pynciau sydd ar gael yn eich ysgol, yr hyn y byddwch yn ei ddysgu ym mhob un, a sut y byddwch yn cael eich asesu. Gallwch siarad ag athrawon, gofyn cwestiynau a darganfod pa gyrsiau TGAU neu alwedigaethol a allai gyd-fynd â'ch diddordebau, eich cryfderau a'ch uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

Y prif beth i'w gofio yw mai eich dewisiadau chi yw'r rhain! Mae gennych amser i archwilio'r hyn sydd o ddiddordeb i chi, ystyried eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol a meddwl am y pynciau y byddwch yn mwynhau eu hastudio. Nid oes angen i chi wybod yn union beth rydych am ei wneud yn y dyfodol eto - mae noson opsiynau yno i'ch helpu i wneud dewisiadau gwybodus, teimlo'n fwy hyderus am gam nesaf eich addysg, ystyried eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol a deall pa bynciau sy'n gweddu orau i'ch diddordebau a'ch cryfderau.

Sut i ddewis eich opsiynau ym Mlwyddyn 9?

  1. Dewiswch bwnc rydych chi'n ei fwynhau

Y lle gorau i ddechrau yw drwy feddwl am y pynciau rydych chi'n eu mwynhau ar hyn o bryd. Byddwch yn treulio llawer o amser ar y pynciau hyn, felly bydd dewis rhai rydych chi'n eu mwynhau yn gwneud astudio ac adolygu'n fwy difyr.

Gofynnwch i chi eich hun:

  • Pa destunau ydw i'n mwynhau ymchwilio iddynt?

  • A yw'n well gen i waith ymarferol yn hytrach na gwaith damcaniaethol?

  • Ydw i'n berson creadigol?

  • Ydw i'n mwynhau gwaith cwrs neu arholiadau yn fwy?

  • A oes unrhyw beth yr hoffwn ddysgu mwy amdano?

  1. Meddyliwch am y dyfodol

Efallai ei bod yn ymddangos yn rhy gynnar i feddwl am ddewis coleg neu chweched dosbarth, os hoffech fynd i'r brifysgol, neu pa yrfa yr hoffech ei dilyn. Fodd bynnag, gall dechrau meddwl am y llwybrau posibl yr hoffech eu dilyn ei gwneud yn haws penderfynu pa opsiynau i'w dewis.

Efallai eich bod yn ystyried gyrfa ym maes technoleg, ac felly gallai pynciau fel Cyfrifiadureg neu Dylunio a Thechnoleg fod o ddiddordeb i chi. Neu efallai eich bod yn gweld eich hun yn gweithio mewn maes creadigol, ac yn yr achos hwnnw gallai pynciau fel Celf a Dylunio neu Drama fod yn addas i chi.

Meddyliwch am y sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy astudio rhai pynciau a sut y gallant eich helpu i baratoi ar gyfer y dyfodol. Gall rhai pynciau eich helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, tra gall eraill gryfhau eich gallu i ddatrys problemau, dadansoddi gwybodaeth, meddwl yn greadigol neu weithio'n annibynnol.

Hyd yn oed os bydd eich cynlluniau'n newid dros amser, sy'n gwbl naturiol, gall cael rhywfaint o syniadau eich helpu i benderfynu pa bynciau all eich helpu i symud ymlaen i feysydd penodol.

  1. Gwnewch eich dewisiadau eich hun

Mae eich ffrindiau, eich rhieni a'ch athrawon yn rhan bwysig o'ch bywyd, felly mae'n naturiol bod eu cyngor yn bwysig i chi. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio bod gan bawb ddiddordebau, cryfderau a nodau gwahanol. Efallai na fydd pwnc y mae eich ffrind gorau'n ei fwynhau yn addas i chi, ac efallai na fydd cwrs y mae eich rhieni'n meddwl sy'n ddefnyddiol yn cyd-fynd â'r hyn rydych chi'n ei fwynhau neu'n dymuno ei wneud yn y dyfodol.

Mae'n werth gwrando ar gyngor pobl eraill, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis pynciau rydych yn eu mwynhau ac sy'n cyd-fynd â'ch cryfderau. Wedi'r cyfan, chi fydd yn astudio'r pynciau hyn am y ddwy flynedd nesaf. Drwy ddewis pwnc rydych yn ei fwynhau, rydych yn fwy tebygol o deimlo cymhelliant i lwyddo a gweithio'n galetach! Cofiwch mai'r opsiynau hyn yw eich cyfle i ddechrau siapio eich llwybr eich hun, felly dewiswch yn hyderus y pynciau sy'n teimlo'n iawn i chi.

  1. Darganfyddwch sut beth yw'r cwrs go iawn

Cyn penderfynu pa bynciau yr hoffech eu dewis, mae'n syniad da deall beth mae pob cwrs yn ei gynnwys. Wedi'r cyfan, nid yw enw'r pwnc yn rhoi'r darlun llawn i chi. Efallai na fydd pwnc rydych eisoes yn ei fwynhau yn cynnwys testunau sy'n eich diddori ar lefel uwch. Ar y llaw arall, gallai pwnc newydd eich cyflwyno i destun rydych bob amser wedi bod eisiau ei astudio, ond nad oeddech wedi sylweddoli y byddai'n rhan o'r cwrs.

Mae noson opsiynau yn gyfle perffaith i ofyn cwestiynau i athrawon am gwrs penodol a hyd yn oed edrych ar enghreifftiau o waith. Cyn y noson, gallech hyd yn oed baratoi rhestr o bethau yr hoffech gael gwybod amdanynt.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Pa destunau fyddwch chi'n eu hastudio?

  • Sut mae'r cwrs yn cael ei asesu?

  • A yw'r pwnc hwn yn cael ei asesu'n bennaf drwy waith cwrs neu drwy arholiadau?

  • Pa sgiliau fyddwch chi'n eu datblygu?

  • Pa gyfleoedd y gallai'r pwnc hwn eu hagor i chi ar ôl Blwyddyn 11?

I gael rhagor o wybodaeth am bynciau penodol, ewch i'n tudalennau cymwysterau. Ynghyd â manylebau ac adnoddau, byddwch hefyd yn dod o hyd i'n taflenni nosweithiau opsiynau, sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd a'u hychwanegu at y wefan.

  1. Cymerwch eich amser

Mae dewis eich opsiynau yn benderfyniad pwysig, felly peidiwch â theimlo dan bwysau i wneud eich dewisiadau ar unwaith. Cymerwch amser i ystyried y wybodaeth a'r cyngor rydych wedi'u derbyn, a byddwch yn agored i archwilio pynciau nad oeddech efallai wedi'u hystyried o'r blaen. Efallai y byddwch yn darganfod diddordeb newydd neu'n gweld bod pwnc yn llawer mwy diddorol nag yr oeddech wedi'i ddisgwyl.

Mae hefyd yn syniad da i siarad ag athrawon am y pynciau rydych yn ystyried eu dewis. Gallant roi gwell dealltwriaeth i chi o'r hyn y mae'r cwrs yn ei gynnwys a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Gall siarad â dysgwyr hŷn sydd eisoes yn astudio pwnc sydd o ddiddordeb i chi fod yn werthfawr hefyd, gan y gallant rannu eu profiadau, a rhoi cipolwg gonest ar sut beth yw'r pwnc mewn gwirionedd.

Yn bwysicaf oll, cofiwch nad oes angen i chi fod wedi cynllunio eich dyfodol erbyn Blwyddyn 9. Dylai hwn fod yn gyfle cyffrous i ddewis pynciau rydych yn eu mwynhau ac sydd o ddiddordeb i chi. Er ei bod yn werth meddwl am sut y gallai eich opsiynau gefnogi eich cynlluniau ar ôl Blwyddyn 11, mae dewis pynciau sy'n eich ysgogi ac yn ennyn eich diddordeb yr un mor bwysig.


Cefnogaeth pellach ar gyfer noson opsiynau:


Os oedd y blog hwn yn ddefnyddiol i chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â'n hardal benodol Cefnogaeth i Fyfyrwyr, lle byddwch yn dod o hyd i gyngor ar adolygu ac eich llesiant i'ch helpu drwy gydol y flwyddyn ysgol.