Datgelu potensial dysgwyr gyda chymwysterau galwedigaethol a chymhwysol CBAC.
Mae ein hamrywiaeth o gymwysterau Lefel 1/2 a Lefel 3 yn cynnig cyfuniad o elfennau theori ac ymarferol a fydd yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer astudio pellach neu gyflogaeth, gan ategu cymwysterau TGAU ac UG/Safon Uwch neu gynnig dewis arall delfrydol.
Gweler mwy o gymwysterau galwedigaethol a chymhwysol CBAC isod. Cysylltwch â ni drwy galwedigaethol@cbac.co.uk i ddysgu mwy.
Pam dewis CBAC ar gyfer Cymwysterau Galwedigaethol a Chymhwysol?
Drwy addysgu Cymwysterau Galwedigaethol a Chymhwysol gyda CBAC byddwch chi'n elwa o'r canlynol:
- Asesiadau hygyrch, dibynadwy
- Mynediad rhwydd at gefnogaeth gan arbenigwyr pwnc
- Adnoddau addysgu ar-lein rhad ac am ddim
- Cyfleoedd hyfforddiant dan arweiniad arbenigwyr, a mwy.