TGAU Cyfrifiadureg - Dysgu o 2025

new_releases
Dysgu Proffesiynol

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.

Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Bydd y cymhwyster TGAU Cyfrifiadureg yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:

  • Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr
    • ddatblygu a rhoi prawf ar fodelau
    • ystyried effaith gymdeithasol, proffesiynol, moesegol, amgylcheddol a chyfreithiol systemau a'r defnydd o dechnoleg
    • dod yn ddatryswyr problemau mentrus yn y byd go iawn drwy ddatblygu sgiliau meddwl cyfrifiannol
  • Cefnogi egwyddorion cynnydd
    • drwy annog datrys problemau a dylunio iterus
    • archwilio a chael profiad o syniadau cynyddol gymhleth (er enghraifft mewn tasgau rhaglennu yn y briff sy'n cael ei ryddhau ymlaen llaw sy'n cael eu mireinio a'u hehangu ymhellach yn yr arholiad).
  • Cefnogi'r ystyriaethau penodol ar gyfer y maes hwn drwy roi cyfle i ddysgwyr:
    • ddysgu am ddylunio, datblygu a chymhwyso technoleg, meddalwedd a systemau
    • meithrin dealltwriaeth o sut gall technolegau effeithio ar fywydau dysgwyr a'u gyrfaoedd yn y dyfodol

Bydd y cymhwyster TGAU Cyfrifiadureg yn seiliedig hefyd ar y cysyniadau cyfrifiadureg canlynol sy'n seiliedig ar y testunau sydd wedi'i rhestru yn 6-8 o'r Meini Prawf Cymeradwyo cyhoeddedig:

  • saernïaeth gyfrifiadurol
  • strwythur a gweithrediad systemau
  • sut mae systemau'n cyfathrebu
  • diogelwch
  • datrys problemau
    • algorithmig
    • dadelfennu gweithredol
  • rhaglennu
  • iaith a chrynoyddion
  • gweithrediadau rhesymegol
  • systemau gweithredu
  • cylchred oes datblygu systemau

Bydd cynnwys pwnc y cymhwyster TGAU Cyfrifiadureg hefyd yn cynnwys amrediad o ddimensiynau cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol, amgylcheddol a phroffesiynol sy'n berthnasol i'r meysydd testun uchod ac sydd wedi'u hintegreiddio iddynt.

 

Bydd cynnwys sy'n ymwneud ag esblygiad technolegau sy'n berthnasol i'r testunau a amlinellir uchod, lle y bo'n briodol, hefyd yn rhan o'r cymhwyster TGAU Cyfrifiadureg.

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Adnoddau Digidol

Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM

 

Er mwyn cefnogi ein canolfannau i gyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd, rydym yn falch o gadarnhau y bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn cynhyrchu pecyn o adnoddau dwyieithog RHAD AC AM DDIM ar gyfer pob pwnc. Bydd hyn yn cynnwys 130 o becynnau i ddechrau, sy'n cynnwys adnoddau dysgu cyfunol a threfnwyr gwybodaeth ar gyfer y grŵp cyntaf o gymwysterau a fydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025. 

 

Amserlen cyhoeddi

 

Bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn gweithio'n gyflym i gynhyrchu'r deunyddiau cefnogi newydd hyn. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi fesul cam gan ddechrau o ddiwedd yr hydref 2024, a bydd y gyfres lawn o adnoddau dwyieithog ar gael erbyn Mehefin 2025. 

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

  • Cyrsiau i ddod
  • Cyrsiau ar alw
photo of Gareth Gillard
Oes gennych chi gwestiwn?
Gareth Gillard ydw i
phone_outline 029 2026 5401
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline James Fisher
phone_outline 029 2026 5401
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Neil Evans
Dyddiadau Allweddol
2024
09
Gor
Cyhoeddi Manyleb Ddrafft
30
Medi
Cyhoeddi Manyleb wedi'i chymeradwyo
19
Rhag
Cyhoeddi Deunyddiau Asesu Enghreifftiol