Gwobrau Arloesedd 2025

Mae dyfeiswyr ifanc mwyaf addawol Cymru wedi’u cydnabod am eu syniadau creadigol yn ein Gwobrau Arloesedd blynyddol, a gynhaliwyd am y 25ain tro eleni.  

Cynhaliwyd y Gwobrau Arloesedd yn yr adeilad Pierhead ym Mae Caerdydd ar 18 Rhagfyr, gan ddathlu dylunio a thechnoleg yng Nghymru gan hefyd gydnabod a gwobrwyo'r genhedlaeth nesaf o arloeswyr.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, roedd y Gwobrau Arloesedd eleni wedi’u datblygu mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru i annog pobl ifanc yng Nghymru i fod yn arloesol yn dechnolegol ac i werthfawrogi pwysigrwydd dylunio a thechnoleg. Roedd hefyd yn adlewyrchiad o lwyddiant dyfeiswyr Cymru ac mae'n cydnabod eu cyfraniadau.






Mae lluniau o'r digwyddiad ar gael i'w gweld yma.

"Y Gwobrau Arloesedd yw un o'r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn ein calendr, ac mae wir yn anrhydedd arddangos y talent anhygoel sy'n dod o ysgolion ar draws Cymru. Mae safon y creadigrwydd, sgiliau datrys problemau a thechnegol a welwyd eleni yn rhagorol.

“Llongyfarchiadau mawr felly i bawb a gymerodd ran, ac wrth gwrs ein henillwyr. Mae'r ymrwymiad, dychymyg a'r ymdrech y tu ôl i'r projectau hyn wir yn ysbrydoledig. 

"Wrth i Gymru edrych i gryfhau ei safle mewn byd sy'n fwyfwy cystadleuol, bydd pwysigrwydd rôl dylunio a thechnoleg yn parhau i dyfu. Mae'r syniadau a welwyd yn y gwobrau hyn yn dangos pa mor ddisglair yw'r dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen i weld ble fydd yr arloeswyr ifanc hyn yn mynd â'u talentau nesaf." – Ian Morgan, Prif Weithredwr, CBAC 

Enillwyr Gwobrau 2025 

Safon Uwch 

1af – Huw Davies, Ysgol Uwchradd Aberteifi 

2il – Dylan Draper, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Ioan Fedyddiwr 

3ydd – Madison Burgess, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern 

 

Safon UG 

1af – Lewis Barnes, Ysgol Gyfun Brynteg 

2il – Gruffudd Thomas, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern 

3ydd – Lucy Moyes, Ysgol Bro Pedr 

 

TGAU 

1af – Henry Farr, Ysgol Uwchradd y Trallwng 

2il – Glesni Rees, Ysgol Bro Pedr 

3ydd – Matthew Evans, Ysgol Bro Preseli 

 

Gwobrau Eraill 

Gwobr Creadigrwydd – Mari Lois Williams, Coleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli 

Gwobr Eiddo Deallusol – Tegid Harper, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern 

Gwobr Gwyddoniaeth – Alfie Smith, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf 

“Rwyf wedi gwneud traciwr cyflymiad ar gyfer sbrintwyr. Yn syml, mae’n defnyddio ril sy’n dod o gefn y blociau cychwyn. Mae hefyd yn defnyddio seinydd i gychwyn yr athletwyr, a phan fyddan nhw’n cychwyn, mae’n tracio’r cyflymiad ar ap a ddyluniais ar ffôn yr hyfforddwr neu’r defnyddiwr. Rwyf innau’n sbrintiwr fy hun, felly cefais fy ysbrydoli i ryw raddau gan y problemau rwy’n eu hwynebu wrth ymarfer o ddydd i ddydd.

Mae ennill y wobr hon yn hwb mawr. Bydd o gymorth wrth wneud ceisiadau ar gyfer y brifysgol, ac mae’n fy nghymell gyda fy mhrojectau Safon Uwch. Hoffwn ddiolch i fy athro Dylunio a Thechnoleg, Mr Harper, a fy rhieni. Nhw sy’n rhoi’r syniadau a’r holl gymorth i mi.” - Lewis Barnes, Ysgol Gyfun Brynteg, Enillydd Cyffredinol