Gwobrau Arloesedd 2023

Golwg ar seremoni 2023

Mae dyfeiswyr ifanc mwyaf addawol Cymru wedi ennill gwobrau am eu syniadau arloesol yn ein 23ain Gwobrau Arloesedd blynyddol. Cynhaliwyd y seremoni yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 14 Rhagfyr, lle cafodd cyflawniadau egin ddyfeiswyr eu dathlu.

 

Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, nod ein Gwobrau Arloesedd yw ysbrydoli creadigrwydd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, gan eu hannog i ailfeddwl dyluniadau confensiynol cynhyrchion a gwasanaethau bob dydd. Ar ôl dychweliad buddugoliaethus yn 2022 yn dilyn bwlch o ddwy flynedd, roedd y 23ain seremoni yn arddangos cyfoeth o syniadau dyfeisgar gan feddyliau ifanc talentog.

Mae lluniau o'r digwyddiad ar gael i'w gweld yma.

Cymerwch olwg ar uchafbwyntiau'r diwrnod

 

"Mae'r Gwobrau Arloesedd yn ddigwyddiad rwy'n edrych ymlaen ato bob blwyddyn. Mae'r seremoni yn amlygu pwysigrwydd cydnabod pobl ifanc dalentog yng Nghymru a chydnabod lefel yr ymrwymiad a'r gwaith caled i greu'r cynhyrchion hyn." Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC

Ennillwyr Gwobrau 2023

Safon Uwch
1af – Sion O’Keeffe, Ysgol Bro Pedr, FretLuminate
2il – Carys Boardman, Ysgol Bryn Elian, Cit Offer Hygyrchedd
3ydd – Tomas Billington, Ysgol Brenin Harri’r VIII Y Fenni, Troli Bwrdd Syrffio 
UG
1af – Jasmin Jones, Ysgol Uwchradd Dinbych, Gwefrydd Brwsh Dannedd Di-wifr
2il – Sonny Normansel, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Cloch Drws Adborth Haptig i unigolion trwm eu clyw
3ydd – Rhys Wijeratne, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, System Llywio GPS wedi’i Phweru gan Dynamo
TGAU
1af – Alys Jones, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Dyfais Lleihau Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT) ar Hediadau
2il – Huw Davies, Ysgol Uwchradd Aberteifi, Help Llaw
3ydd – Nanci Edwards, Ysgol Gyfun Trefynwy, Codi Ymwybyddiaeth o Amddiffyn Cefnforoedd
Aeth gwobrau eraill i
Creadigrwydd – Emily Hay, Coleg Dewi Sant, Gêm Fwrdd Rhyfeddodau’r Byd
Eiddo Deallusol – Finn Channing Davies, Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Cyfarpar Dringo Crimpio
Gwyddoniaeth – Jacob Taylor Chow, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Ailffurfiwr Poteli Plastig
“Rwyf mor falch fy mod wedi ennill - doeddwn i wir ddim yn disgwyl hynny! Mae cymaint o brojectau anhygoel yma heddiw ac mae wedi bod mor wych cael y cyfle i edrych ar bob un ohonynt. Hoffwn ddiolch i Mr Jones fy athro Dylunio a Thechnoleg, a Mr Williams fy mhennaeth. Rwyf mor ddiolchgar am eu cefnogaeth a'u harweiniad; Ni fyddai wedi bod yn bosibl hebddyn nhw. Mae gennym adran Dylunio a Thechnoleg ragorol yn ein hysgol, sydd wedi cefnogi fy syniadau ac wedi fy ngalluogi i wneud fy ngorau.” Jasmin Jones, Ysgol Uwchradd Dinbych, Enillydd Cyffredinol