Gwobrau Arloesedd 2022

Golwg ar seremoni 2022

Daeth myfyrwyr, athrawon a rhieni o ysgolion a cholegau ledled y wlad i gasglu yn y Pierhead i ddarganfod enillwyr y dyfeisiadau gorau yn y categorïau Safon Uwch, UG a TGAU. Cynhelid y seremoni ar yr 13 o Ragfyr a mynychwyd y seremoni gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a Ian Morgan Prif Weithredwr CBAC. enillodd Benjamin  Morris o Ysgol Gyfun Brenin Harri'r VIII, Y Fenni, y categori  Safon Uwch  a  daeth i’r brig fel yr Enillydd Cyffredinol   gyda'i greadigaeth,  dyfais amddiffyn bysedd traed i  gricedwyr. Gwnaeth ei waith profi a datblygu argraff fawr ar y beirniaid a welodd lawer o werth masnachol i'w gynnyrch. Mae rhagor o wybodaeth am bob enillydd ar gael o'n adran newyddion diweddaraf.

Gweler ein tudalen Facebook ar gyfer mwy o luniau.

Cymerwch olwg ar uchafbwyntiau'r diwrnod

 

"Mae wedi bod yn fraint mwynhau llwyddiant y myfyrwyr hyn yn y seremoni wobrwyau hon. Mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod pobl ifanc dalentog yng Nghymru ac yn dathlu lefel yr ymrwymiad a'r gwaith caled sy'n digwydd wrth greu'r cynhyrchion hyn." Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC

Cymerwch olwg ar uchafbwyntiau'r diwrnod

 

 


 

Ennillwyr Gwobrau 2022

 

Enillydd Safon UWch a'r Prif Enillydd Benjamin Morris, o Ysgol Gyfun y Brenin Harri VIII, Y Fenni am ei 'Dyfais amddiffyn bysedd traed i Gricedwyr' gwych
Enillydd Lefel UG Finnley Colwill-Downs, o Ysgol Gyfun Brynteg ar gyfer ei 'Gynnig Dylunio Bagl' newydd’
Enillydd TGAU Taylor Chow, o Ysgol Glan Clwyd am ei 'Beicio yn Ddiogel' dyfeisgar’
Categori Creadigol Polly Robatto, Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Categori Eiddo Deallusol Niamh Harris, Ysgol Gyfun Brynteg
Categori CAD/CAM Dylan Brannigan, Ysgol Gyfun Gŵyr
“Mae safonau uchel yr ymgeiswyr yn enghreifftiau gwych o'r hyn y gall Cymru ei gyflawni drwy wyddoniaeth, technoleg ac arloesedd. Mae'r gwobrau'n dangos talent, brwdfrydedd ac ymrwymiad ein pobl ifanc ledled Cymru.” Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg