Dathliad o Ddylunio a Thechnoleg Cymru, gan gydnabod a gwobrwyo'r genhedlaeth nesaf o arloeswyr

Gan weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, mae ein Gwobr yn annog pobl ifanc yng Nghymru i fod yn arloesol yn dechnolegol gan werthfawrogi pwysigrwydd Dylunio a Thechnoleg.

   


Wrth i'r Gwobrau Arloesedd gyrraedd carreg filltir o 25 mlynedd, rydym yn edrych yn ôl ar sut ddechreuodd y digwyddiad; gan sgwrsio gydag un o'i sylfaenwyr, Selwyn Gale.

    

Mae Selwyn wedi bod yn ganolog i sefydlu'r Gwobrau Arloesedd ac wedi parhau i gymryd rhan weithredol yn y digwyddiad blynyddol, sy'n arddangos gwaith project Dylunio a Thechnoleg dalentog ar lefel TGAU, UG a Safon Uwch. Mae'r gwaith yn cael ei gynnal yn rhan o unedau Asesiadau Di-arholiad CBAC, o fewn y system gymwysterau yng Nghymru.

   

Gofynnwyd i Selwyn sut y ffurfiwyd y digwyddiad, a sut daeth yn ddyddiad cyffrous yng nghalendr yr ysgol. 

     

 Selwyn Gale yn derbyn Gwobr Cyflawniad Oes fel sylfaenydd y Gwobrau Arloesedd.   


    

Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus iawn, yn llawn ymwelwyr, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Pob Cenedl, Caerdydd, llwyddodd y panel beirniadu i ddewis Enillwyr y Wobr. Roedd safon ac ansawdd uchel yr atebion creadigol a gyflwynwyd ar gyfer Cystadleuaeth 2026 wedi gwneud y penderfyniad yn un anodd iawn.

 

Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi bod y cyflwyniadau canlynol (rhestrwyd yn nhrefn y wyddor) wedi cael eu dewis fel enillwyr y wobr. Cynhelir Seremoni Cyflwyno yn y Senedd, Bae Caerdydd ym mis Rhagfyr, lle bydd categorïau’r wobr yn cael eu datgelu'n ffurfiol.

Enw'r Ymgeisydd

Enw'r Ganolfan

Teitl Y Project

Arddangosyn

Lewis Barnes

Brynteg Comprehensive School

Locai Coaching Assistant

A12

Morgan Boston-Williams

Ysgol Uwchradd Aberteifi

Skate Shift

A2

Oscar Bryer

Ysgol Gyfun Emlyn

Grip

G8

Sam Clarke

Ysgol Uwchradd Aberteifi

Surfboard Wall Hanger

AS6

Harri Davies

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Snaptrack

G21

Lola Harrison

Caldicot School

Multifunctional Jacket / Sleeping Pod

G11

Hannah Hill

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

Microplastic Washing Machine Filter

A6

Zackery Jewell

Rydal Penrhos School

Hand and Finger Tracking Computer Interface

AS1

Nikolas Lia

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Heatharvest

A18

Bobby Parkin

Ysgol Uwchradd Aberteifi

Fire Nuggets

AS4

Siddha Saini

Ysgol Bro Preseli

Automated Compacting Waste Bin

AS9

Edward Elliot Turner

Welshpool High School

Robospray

G18


Golwg ar Seremonïau Gwobrau Arloesedd blaenorol:

 


 

Cysylltwch â Ni

Jason Cates
Swyddog Pwnc Dylunio a Thechnoleg
local_phone 029 2026 5017
Jonathan Thomas
Rheolwr CC
local_phone 029 2026 5102