Swyddi marcio arholiadau CBAC – y manteision i athrawon a chanolfannau
Os ydych chi'n chwilio am ffordd o ddatblygu eich arbenigedd proffesiynol ac ennill incwm ychwanegol, gallai dod yn arholwr i CBAC fod yn gyfle perffaith i chi. Ac nid yr athrawon yn unig fyddai'n elwa, gydag ysgolion a cholegau yn cael staff sydd â dealltwriaeth fanylach o safonau asesu a pherfformiad arholiadau.
Pam mae athrawon yn dewis swyddi marcio?
Mae athrawon yn dewis swyddi marcio am amrywiaeth o resymau. I rai, mae'n gyfle i ennill incwm ychwanegol ochr yn ochr â'u rôl addysgu, ac i eraill mae'n gyfle i ddatblygu'n broffesiynol a chael dealltwriaeth fanylach o sut mae arholiadau'n cael eu hasesu.
Mae arholi'n cynnig hyblygrwydd hefyd, gyda'r marcio'n cael ei wneud i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau presennol yn ystod y gyfres arholiadau.
Gadewch i ni archwilio'n ddyfnach…
Manteision dod yn arholwr CBAC i athrawon
-
Gweithio hyblyg – Mae marcio arholiadau wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau presennol, gyda llawer o'r gwaith yn cael ei gwblhau o bell, gartref.
-
Incwm ychwanegol – Un o brif fanteision marcio arholiadau gyda CBAC yw ei fod yn galluogi athrawon i ennill incwm ychwanegol ochr yn ochr â'u prif rôl, gyda strwythurau talu eglur. Darganfyddwch faint mae arholwyr fel arfer yn ei ennill yng Nghymru yma.
-
Dealltwriaeth unigryw o sut mae asesiadau'n cael eu cynllunio a'u marcio – Bydd athrawon hefyd yn cael dealltwriaeth unigryw, y tu ôl i'r llenni, o sut mae asesiadau'n cael eu cynllunio a'u marcio, gan wella eu dealltwriaeth o'r hyn y mae arholwyr yn chwilio amdano.
-
Gwerthfawr o ran DPP – Mae dod yn arholwr yn ffurf werthfawr ar ddatblygiad proffesiynol, sy'n gallu cefnogi datblygiad gyrfa yn ehangach drwy feithrin arbenigedd y gellir ei gymhwyso yn yr ystafell ddosbarth ac mewn rolau arwain yn y dyfodol.
Sut mae ysgolion a cholegau yn elwa pan mae athrawon yn dod yn arholwyr CBAC?
Os ydych chi'n bennaeth ysgol, mae bod ag athrawon yn arholi gyda CBAC yn rhoi manteision helaeth i'ch canolfan. Mae’r rhain yn cynnwys:
-
Gwell dealltwriaeth o asesu – Fel y cyfeiriwyd ato uchod, mae athrawon yn meithrin dealltwriaeth unigryw o asesiadau drwy farcio, gan eu galluogi i ddod â'r arbenigedd gwerthfawr yn ôl i'w hadran. Mae hyn yn ein harwain at…
-
Canlyniadau gwell i fyfyrwyr – Mae profiad arholwr yn rhoi dealltwriaeth gliriach i athrawon o'r sgiliau a'r technegau arholiad sy'n cael eu gwobrwyo mewn asesiadau, yn ogystal â'r camgymeriadau cyffredin sy'n colli marciau i fyfyrwyr.
-
Data mewnol mwy dibynadwy – Oherwydd bod athrawon sydd wedi'u hyfforddi fel arholwyr yn deall ffiniau graddau a meini prawf marcio yn fanwl, maent wedi'u paratoi'n well i wneud rhagfynegiadau cywir am berfformiad myfyrwyr.
-
Mae datblygiad proffesiynol o fudd i'r tîm cyfan – Mae manteision dod yn farciwr arholiadau yn aml yn ymestyn y tu hwnt i'r unigolyn, oherwydd mae athrawon yn gallu rhannu eu harbenigedd asesu â chydweithwyr, cefnogi a mentora staff llai profiadol, a chyfrannu at welliannau mewn ymarferion addysgu ac asesu ar draws yr adran.
Cwestiynau cyffredin ynghylch marcio arholiadau
Pa gefnogaeth mae CBAC yn ei chynnig?
P'un a ydych chi'n marcio am y tro cyntaf neu'n arholwr profiadol, mae CBAC yn rhoi cefnogaeth drwy gydol y broses. Mae arholwyr newydd yn cael sesiynau hyfforddi a safoni i sicrhau eu bod yn deall y cynllun marcio a'r gofynion asesu, tra bod arweinwyr tîm profiadol wrth law i gynnig arweiniad ac ateb cwestiynau yn ystod y cyfnod marcio.
Pwy all ddod yn arholwr CBAC?
Mae CBAC yn croesawu ceisiadau gan athrawon, darlithwyr a gweithwyr addysg proffesiynol sydd â gwybodaeth a phrofiad perthnasol am y pwnc. Darganfyddwch ein gofynion cymhwysedd i ddod yn arholwr yma.
A yw marcio arholiadau yn hyblyg?
Yn sicr! Mae'r rhan fwyaf o'r marcio yn digwydd o bell yn ystod y gyfres arholiadau. Bydd angen i chi sicrhau bod gennych eich cyfrifiadur/ gliniadur Windows eich hun sydd â Windows 11 neu Mac OS 11.5 neu ddiweddarach, mynediad diogel at fand eang a meddalwedd wrthfirysau briodol.
A yw athrawon yn cael marcio papurau arholiad ochr yn ochr ag addysgu?
Ydyn. Mae llawer o arholwyr CBAC yn marcio papurau yn ogystal â pharhau yn eu rolau addysgu. Mae marcio yn cael ei gwblhau y tu allan i'r diwrnod ysgol yn ystod y gyfres arholiadau, gan ganiatáu i athrawon gydbwyso eu cyfrifoldebau arholi â'u hymrwymiadau yn yr ystafell ddosbarth tra'u bod yn cwrdd â therfynau amser y cytunwyd arnynt.
Oes angen profiad arholwr arnoch i wneud cais i ddod yn arholwr?
Y newyddion gwych yw – nac oes! Mewn llawer o achosion, mae byrddau arholi yn chwilio am wybodaeth gadarn am y pwnc, profiad addysgu ac asesu yn y pwnc/ lefel rydych chi'n gwneud cais amdano, a chymwysterau academaidd addas yn y pwnc, yn hytrach na phobl sydd eisoes wedi gweithio fel arholwyr.
Arholi gyda CBAC
Rydym yn recriwtio ar gyfer arholwyr drwy gydol y flwyddyn, a gallwch weld y rhestr lawn o'r pynciau rydym yn recriwtio ar eu cyfer ar hyn o bryd ar ein gwefan. Gallwch hefyd ddarllen ein canllaw cynhwysfawr sy'n esbonio'r broses ar gyfer gwneud cais i fod yn arholwr, yma.
Os hoffech siarad â'n tîm Penodedigion am unrhyw gwestiynau sydd gennych, cysylltwch â ni ar 029 2026 5457 neu anfonwch e-bost at Penodedigion@cbac.co.uk.