Pa hyfforddiant mae marcwyr arholiadau yn ei dderbyn cyn iddynt ddechrau marcio?

Nid yw’r marcwyr arholiadau yn dechrau marcio papurau arholiad heb yn gyntaf gwblhau’r hyfforddiant strwythuredig a ddarperir gan y corff dyfarnu, sydd wedi'i gynllunio i sicrhau bod y broses farcio yn cyfateb i’r safonau y cytunwyd arnynt.   

Yn CBAC, rydym yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth eang sy'n cynnwys dysgu am y systemau a'r prosesau mewnol ac ymgymryd â gweithgareddau marcio safonedig.  

Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio sut beth yw'r hyfforddiant i farcwyr arholiadau, pwy sy'n gyfrifol am ei gyflwyno, a'r camau y mae CBAC yn eu cymryd i sicrhau bod ein proses farcio yn gywir ac yn deg.

Pwy sy'n darparu'r hyfforddiant i farcwyr arholiadau?

Cyfrifoldeb y corff dyfarnu yw sicrhau bod y marcio'n cael ei wneud yn gyson ac yn unol â safonau asesu cenedlaethol.  

Trwy ddarparu a goruchwylio'r hyfforddiant i farcwyr arholiadau yn uniongyrchol, y bwrdd arholi fydd yn gwbl gyfrifol am ansawdd a chysondeb y marcio o hyd, gan helpu i gynnal hyder yng nghywirdeb a dibynadwyedd canlyniadau'r arholiadau.   

Beth mae’r hyfforddiant i farcwyr arholiadau yn ei gynnwys?  

Mae'r hyfforddiant i farcwyr arholiadau wedi'i gynllunio i sicrhau bod pob arholwr yn deall yn union sut y dylid dyfarnu marciau ac yn cymhwyso'r cynllun marcio’n gyson. Er y gallai manylion amrywio ychydig yn ôl y pwnc a'r cymhwyster, mae'r hyfforddiant yn gyffredinol yn dilyn yr un camau craidd ar draws byrddau arholi'r DU. 

Mae camau allweddol yr hyfforddiant fel arfer yn cynnwys:

  • Deall y cymhwyster – bydd y marciwr arholiadau  yn cael ei gyflwyno i'r cymhwyster a'r papur arholiad penodol y bydd yn ei farcio, gan gynnwys sut mae marciau'n cael eu dyfarnu a'r hyn y disgwylir i fyfyrwyr ei ddangos yn eu hatebion. 
  • Dysgu sut i gymhwyso'r cynllun marcio – bydd y marciwr arholiadau yn derbyn canllawiau manwl ar ddehongli'r cynllun marcio yn gywir a sut i ddyfarnu marciau ar gyfer atebion ar lefelau gwahanol. Byddant hefyd yn dysgu am y materion cyffredin i fod yn ymwybodol ohonynt wrth farcio a sut i’w hosgoi.
  • Safoni ac ymarfer marcio  – bydd yr hyfforddiant i farcwyr arholiadau yn cynnwys ymarfer marcio gan ddefnyddio sgriptiau sampl neu sgriptiau ymgeiswyr go iawn yn ogystal â thrafod atebion ffiniol neu amwys.  
  • Hyfforddiant ar y systemau marcio – bydd yr hyfforddiant hefyd yn cynnwys canllawiau ar ddefnyddio llwyfannau marcio ar-lein gwahanol a diogelwch data.   

Hyfforddiant i Farcwyr Arholiadau yn CBAC 

Yn CBAC, mae’r hyfforddiant i farcwyr arholiadau yn cael ei arwain gan uwch arholwyr ac arbenigwyr pwnc sydd â gwybodaeth fanwl o'r cymhwyster, yr amcanion asesu, y cynllun marcio a'r arferion gorau yn gyffredinol.  

Cyn i unrhyw farcio byw ddigwydd, rhaid i bob marciwr CBAC gwblhau'r hyfforddiant gofynnol, gan sicrhau bod pob marciwr yn cymhwyso'r cynllun marcio yn yr un modd, waeth beth fo'u cefndir neu eu profiad marcio blaenorol.  

Dim ond ar ôl i’r marcwyr ddangos bod eu penderfyniadau marcio yn bodloni’r safon sy’n ofynnol gan CBAC y byddant yn cael eu cymeradwyo i ddechrau marcio.

A oes rhaid i farcwyr arholiadau gwblhau'r hyfforddiant cyn marcio?

Yr ateb syml yw - oes! Cyn caniatáu i farcwyr arholiadau ddechrau marcio’n fyw, maen rhaid iddyn nhw gwblhau'r holl weithgareddau safoni a’r hyfforddiant gofynnol.  

Yn CBAC, mae'n ofynnol i arholwyr ddangos eu bod nhw'n gallu cymhwyso'r cynllun marcio yn gywir ac yn gyson yn ystod yr hyfforddiant. Fel arfer mae hyn yn cael ei wneud trwy ymarferion safoni, lle mae penderfyniadau marcio’r marciwr yn cael eu cymharu â marciau uwch arholwyr cymeradwy.  

Dim ond unwaith y mae'r marciwr yn bodloni safon ofynnol CBAC y mae'n cael ei gymeradwyo i farcio sgriptiau arholiad byw. Mae cywirdeb y marcio yn parhau i gael ei fonitro trwy gydol y broses farcio gydag adolygiadau safoni parhaus.  

A yw'r hyfforddiant i farcwyr arholiadau yr un fath ar draws pob bwrdd arholi?

Er bod yr hyfforddiant i farcwyr arholiadau i raddau helaeth yn debyg ar draws pob bwrdd arholi yn y DU, nid yw'n union yr un fath.  

Er enghraifft, mae CBAC yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i farcwyr, trwy gynnal rhaglen strwythuredig dan arweiniad uwch arholwyr, gan gynnwys gweithgareddau safoni ac arweiniad parhaus yn ystod y marcio byw. Fodd bynnag, gall yr hyfforddiant a'r gefnogaeth a ddarperir gan fyrddau arholi eraill yn y DU fod yn wahanol o ran strwythur. 

Dod yn Arholwr gyda CBAC

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn arholwr, edrychwch ar ein tudalen Arholi gyda ni lle byddwch yn dod o hyd i'n holl swyddi gwag (swyddi gwag Arholwyr a Chymedrolwyr a swyddi gwag Penodiadau Uwch).  

Gallwch hefyd fynd draw i'n tudalen Cwestiynau Cyffredin Penodedigion a fydd yn rhoi arweiniad i chi ar bopeth yn ymwneud â'r broses ymgeisio.