A oes angen profiad arholi blaenorol arnoch i ddod yn arholwr?

A oes angen profiad arholi blaenorol arnoch i ddod yn arholwr yw un o'r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae athrawon yn eu gofyn pan fyddant yn ystyried marcio arholiad am y tro cyntaf. Y newyddion da yw nad oes angen profiad arholi blaenorol bob amser.  

Mewn llawer o achosion, mae byrddau arholi yn chwilio am wybodaeth gref o'r pwnc, profiad addysgu ac asesu yn y pwnc/lefel rydych chi'n gwneud cais amdano, a chymwysterau academaidd addas yn y pwnc, yn hytrach na phobl sydd eisoes wedi gweithio fel arholwyr. 

Mewn gwirionedd, mae llawer o arholwyr yn dechrau'r rôl am y tro cyntaf tra'n addysgu'n llawn amser ar yr un pryd.  

 

Sut mae hyfforddiant arholwyr yn eich paratoi ar gyfer marcio? 

Ni all arholwyr ddechrau marcio papurau arholiad heb gwblhau hyfforddiant strwythuredig a ddarperir gan y corff dyfarnu, wedi'i gynllunio i sicrhau bod marcio yn cyd-fynd â'r safonau y cytunwyd arnynt. 

Mae'r 4 prif gam hyfforddiant fel arfer yn cynnwys: 

  1. Deall y cymhwyster 

Yn ystod hyfforddiant, dylai marcwyr arholiadau ddod yn gyfarwydd â manyleb y cymhwyster y byddant yn gweithio arno a'r gydran/uned benodol y byddant yn ei farcio. 

  1. Dysgu sut i ddehongli'r cynllun marcio'n gywir 

Mae hyfforddiant hefyd yn canolbwyntio'n fawr ar sut i gymhwyso'r cynllun marcio yn gywir ac yn gyson. Rhoddir canllawiau manwl i farcwyr arholiadau ar sut y dylent gymhwyso'r cynllun marcio, gan gynnwys sut mae gwahanol lefelau ymateb yn edrych a sut y dylid rhoi marciau yn deg ar draws amrywiaeth o atebion myfyrwyr. 

Tynnir sylw marcwyr hefyd at broblemau cyffredin o ran marcio a chamsyniadau a all godi yn ystod y broses. 

  1. Ymarfer marcio 

Rhan allweddol o hyfforddiant marcwyr arholiadau yw safoni ac ymarfer marcio, sy'n sicrhau bod pob arholwr yn cymhwyso'r cynllun marcio yn gyson, waeth pwy sy'n marcio'r papur. Mae hyn yn cynnwys ymarfer marcio gan ddefnyddio sampl neu sgriptiau ymgeiswyr go iawn yn ogystal â thrafod ymatebion ffiniol neu amwys yn ystod cynhadledd marcio arholwyr. 

  1. Hyfforddiant ar systemau marcio 

Bydd hyfforddiant marcwyr arholiadau hefyd yn cynnwys canllawiau ar ddefnyddio gwahanol lwyfannau marcio ar-lein a diogelwch data.  

 

Beth yw'r gofynion cymhwysedd i ddod yn arholwr yn y DU? 

Mae pob bwrdd arholi'r DU yn gosod gofynion cymhwysedd sylfaenol i sicrhau bod marcio yn gywir. Ar gyfer sefydliadau fel CBAC, mae'r rhain yn cynnwys: 

  • Profiad addysgu: Dylech fod yn athro neu’n ddarlithydd presennol neu wedi ymddeol gyda phrofiad o addysgu ac asesu yn y pwnc a'r lefel rydych chi'n gwneud cais amdanynt. 
     

  • Cymwysterau addas: Dylai fod gennych gymwysterau academaidd addas yn y pwnc, er enghraifft gradd a chymhwyster addysgu. 
     

  • Mynediad cywir at dechnoleg: Rhaid i farcwyr fod â mynediad at gyfrifiadur gyda chysylltiad rhyngrwyd dibynadwy sy'n bodloni gofynion system marcio ar-lein CBAC, h.y. bydd gennych chi eich cyfrifiadur/gliniadur Windows eich hun sydd â Windows 11 neu Mac OS 11.5 neu ddiweddarach, mynediad diogel at fand llydan a meddalwedd gwrthfirws priodol. 
     

  •  Rhoi tystiolaeth o brofiad: Bydd angen i chi  ddarparu geirdaon neu dystiolaeth arall sy'n dangos eich cymhwysedd a'ch profiad yn y pwnc. Dylech roi manylion eich prifathro neu bennaeth adran presennol neu fwyaf diweddar fel canolwr. 
     

  • Byw yn y DU: Rhaid i farcwyr fyw yn y DU. 

 

Arholi gyda CBAC 

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn arholwr, edrychwch ar ein tudalen Arholi gyda ni lle byddwch yn dod o hyd i'n holl swyddi gwag (swyddi gwag arholwyr a chymedrolwyr a swyddi gwag uwch benodedigion). 

Gallwch hefyd fynd draw i'n tudalen Cwestiynau Cyffredin a fydd yn rhoi arweiniad i chi ar bopeth sy'n gysylltiedig â'r broses ymgeisio. 

Am fwy o awgrymiadau a mewnwelediadau, ewch i'n blog, sy'n cynnwys testunau arholwyr fel 'Pa hyfforddiant mae marcwyr arholiadau yn ei gael cyn iddynt ddechrau?', 'Beth yw manteision dod yn arholwr? Eich canllaw cyflawn' a 'Beth yw'r broses ar gyfer gwneud cais i fod yn farciwr arholiadau yn y DU?’.