Cymeradwyo'r ail don o gymwysterau Gwneud-i-Gymru

Yn dilyn cyfnod dwys o ddatblygu cymwysterau, rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod ein manylebau ar gyfer yr ail don o'n cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru. Mae'r manylebau hyn ar gael i'w haddysgu o fis Medi 2026. 

Yn tynnu sylw at y llwyddiant hwn, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC:

"Mae cymeradwyo'r ail don o fanylebau yn garreg filltir allweddol wrth ddatblygu ein cyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru. Mae pob cymhwyster wedi'i lunio gyda'r nod o baratoi dysgwyr ar gyfer holl gofynion y byd modern ac yn cyd-fynd â phedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. 

Drwy gydol y broses ddatblygu, rydym wedi ymgysylltu gydag amrywiaeth eang o rhanddeiliaid, gan gynnwys dros 170 o addysgwyr ar draws fwy na 100 o ysgolion yng Nghymru a chynrychiolwyr mewn dros 50 o sefydliadau annibynnol. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr eu cyfraniadau gwerthfawr a'u hymrwymiad parhaus.  

Rydym yn hyderus y bydd y cymwysterau newydd hyn yn ysbrydoli ac ysgogi dysgwyr, gan gynnig cyfleoedd newydd ac ystyrlon, sy'n cefnogi datblygiad unigolion gwybodus a galluog yn barod i gwrdd â heriau'r dyfodol." 


Mae'r manylebau wedi'u cymeradwyo ar gael i'w lawrlwytho o'r tudalennau pwnc canlynol:
 

TGAU 

Cymhwyster nad yw'n TGAU  




Cefnogi dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru 

Datblygwyd y cymwysterau gyda’r Cwricwlwm i Gymru mewn cof. Fodd bynnag, ni fydd hyn i gyd i'w weld yn y fanyleb gan mai dim ond rhan gyntaf y jig-so yw hynny. Ym mis Rhagfyr, bydd pecyn asesu cynhwysfawr yn cael ei gyhoeddi ar gyfer pob cymhwyster, a fydd yn cynnwys trefniadau asesu manwl a deunyddiau asesu enghreifftiol.  

Yn ogystal, er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn, byddwn yn cyhoeddi Canllawiau Addysgu ym mis Ionawr; bydd y Canllawiau hyn yn cefnogi athrawon wrth baratoi at asesu ac yn nodi'r cyfleoedd i gynnwys agweddau ar y Cwricwlwm i Gymru wrth gyflwyno'r cymwysterau. 




Adnoddau addasadwy RHAD AC AM DDIM a Dysgu Proffesiynol
 

I gefnogi cyflwyno'r cymwysterau hyn, byddwn yn cynhyrchu pecyn o adnoddau digidol addasadwy RHAD AC AM DDIM. Byddwn yn dechrau cyhoeddi'r deunyddiau o ddiwedd tymor yr hydref, mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy'r cyhoeddiad canlynol. 

Ochr yn ochr â'r adnoddau hyn, rydyn ni hefyd yn cyflwyno amserlen bwrpasol o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae'r cyrsiau cenedlaethol hyn sy'n RHAD AC AM DDIM ar gael i ganolfannau ledled Cymru. Bydd pob cwrs yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr pwnc hyfforddedig a fydd yn rhoi cipolwg ar bob cymhwyster ac yn cynnig cyngor ac arweiniad pragmataidd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyn, gan gynnwys ein Sioeau Teithiol Ledled Cymru ar gael  yma. 



Shape
Cael y wybodaeth ddiweddaraf 

I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y cymwysterau newydd, ewch i'n hardal 'Gwneud i Gymru' ar y wefan. Mae'r adran hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, ac yn cynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.  

Dweud eich barn am TGAU bioleg, cemeg a ffiseg 
Blaenorol
Rydyn ni'n noddi’r Sioe Addysg Genedlaethol 2025! A wnewch chi ymuno â ni?
Nesaf