TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol) - Dysgu o 2026
Tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan dîm eich pwnc.
Drwy danysgrifio, byddwch chi’n derbyn adnoddau wedi’u teilwra i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, y newyddion diweddaraf am y pwnc, argymhellion gan arbenigwyr, cyrsiau dysgu proffesiynol, a swyddi gwag Arholi perthnasol. Bydd popeth wedi’i roi at ei gilydd gan gadw eich anghenion addysgu chi mewn golwg.
Mae'r cymhwyster TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol) wedi'i gynllunio i roi dealltwriaeth fras i ddysgwyr o gysyniadau sylfaenol bioleg, cemeg a ffiseg. Mae'n pwysleisio rhynggysylltrwydd egwyddorion gwyddonol, sgiliau ymholi, a'r ffordd y caiff gwyddoniaeth ei chymhwyso mewn bywyd pob dydd.
Bydd y cymhwyster TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol) yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud y canlynol:
- cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i ddysgwyr ymgysylltu â'r canlynol:
- chwilfrydedd – mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau
- pethau byw – mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi
- mater – mae mater, a’r ffordd y mae’n ymddwyn, yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau
- grymoedd – mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd.
- Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy wneud y canlynol:
- datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau gwyddonol
- defnyddio, cymhwyso a gwerthuso sgiliau ymholi gwyddonol
- dod yn fwy effeithiol fel dysgwr, er mwyn datrys problemau gwyddonol yn fwy annibynnol
- gwneud cysylltiadau ac archwilio cyd-destunau newydd, gan ystyried effeithiau gweithredoedd gwyddonol.
