Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol - Dysgu o 2026
Tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan dîm eich pwnc.
Drwy danysgrifio, byddwch chi’n derbyn adnoddau wedi’u teilwra i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, y newyddion diweddaraf am y pwnc, argymhellion gan arbenigwyr, cyrsiau dysgu proffesiynol, a swyddi gwag Arholi perthnasol. Bydd popeth wedi’i roi at ei gilydd gan gadw eich anghenion addysgu chi mewn golwg.
Bydd y cymhwyster Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol yn atgyfnerthu'r sgiliau mathemategol allweddol y bydd dysgwyr wedi'u datblygu drwy ymgymryd â'r cymhwyster TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dwyradd), yn ogystal â galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o gysyniadau newydd a dulliau mathemategol.
Bydd y cymhwyster yn cefnogi'r pum hyfedredd rhyngddibynnol sy'n ffurfio egwyddorion cynnydd y Cwricwlwm i Gymru mewn perthynas â'r Maes Mathemateg a Rhifedd drwy helpu dysgwyr i wneud y canlynol: datblygu sgiliau meddwl, rhesymu, cyfathrebu, cymhwyso a metawybyddol dyfnach drwy ddull mathemategol o ddatrys problemau
- ffurfio ac atgyfnerthu sgiliau mathemategol allweddol
- datblygu dealltwriaeth o ddulliau mathemategol a chysyniadau newydd a'r gallu i'w cymhwyso
- bod yn greadigol wrth gymhwyso mathemateg i broblemau heriol ac i sefyllfaoedd newydd a haniaethol
- rhesymu yn fathemategol, tynnu casgliadau a rhesymiadau, dod i gasgliadau ac ymdrin â phrawf mathemategol ffurfiol
- datblygu ymwybyddiaeth o natur gyfannol mathemateg
- cysylltu syniadau o fewn mathemateg a rhwng mathemateg a phynciau eraill.
