TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) - Dysgu o 2026
Gall addysgu a dysgu ei gwneud yn ofynnol i athrawon a dysgwyr ymgysylltu â materion sensitif. Er mwyn cefnogi ymarferwyr sy'n cyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru, rydym wedi datblygu dogfen ganllawiau newydd ar gyflwyno testunau sensitif yn yr ystafell ddosbarth. Gallwch gael mynediad i'n canllawiau drwy'r cyswllt canlynol.
Tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan dîm eich pwnc.
Drwy danysgrifio, byddwch chi’n derbyn adnoddau wedi’u teilwra i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, y newyddion diweddaraf am y pwnc, argymhellion gan arbenigwyr, cyrsiau dysgu proffesiynol, a swyddi gwag Arholi perthnasol. Bydd popeth wedi’i roi at ei gilydd gan gadw eich anghenion addysgu chi mewn golwg.
Bwriad y cymhwyster TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) yw:
- esbonio ffenomenau yn wyddonol i ddangos sut mae'r byd yn gweithio
- adeiladu a gwerthuso dyluniadau ar gyfer ymholiadau gwyddonol a dehongli data a thystiolaeth wyddonol yn feirniadol
- ymchwilio, gwerthuso a defnyddio gwybodaeth wyddonol i wneud penderfyniadau gwybodus.
Bydd y cymhwyster TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud y canlynol:
- Cefnogi datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i ddysgwyr ymgysylltu â'r canlynol:
- chwilfrydedd – mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau
- pethau byw – mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi
- mater – mae mater, a’r ffordd y mae’n ymddwyn, yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau
- grymoedd – mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd.
- Cefnogi egwyddorion cynnydd drwy wneud y canlynol:
- datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau gwyddonol
- defnyddio, cymhwyso a gwerthuso sgiliau ymholi gwyddonol
- dod yn fwy effeithiol fel dysgwr, er mwyn datrys problemau gwyddonol yn fwy annibynnol
- gwneud cysylltiadau ac archwilio cyd-destunau newydd, gan ystyried effeithiau gweithredoedd gwyddonol.
