TGAU Cymraeg Iaith
Gweler swyddi gwag Iaith Gymraeg TGAU a Safon Uwch yma.
Bydd angen mynediad i IAMIS ar y personél yn y ganolfan sy’n gyfrifol am gyflwyno marciau asesiadau dan reolaeth a gwaith sampl. Bellach mae angen mewngofnodi i’r Porth newydd i wneud hyn.
Bydd Swyddogion Arholiadau a deiliaid cyfrifon Gweinyddu yn eich canolfan yn gallu gwneud hyn i chi, neu gallan nhw greu cyfrifon ‘Defnyddiwr’ gyda mynediad i IAMIS ar gyfer unigolion a enwebir yn eich canolfan e.e. athrawon neu arweinwyr adrannau.
Os bydd angen mynediad arnoch chi, cofiwch adael digon o amser i osod eich cyfrif/trefnu’r mynediad. Mae’n bwysig i chi hefyd wneud yn siŵr eich bod yn cyflwyno marciau a samplau yn unol â therfynau amser cyhoeddedig CBAC/Eduqas.
Mae ein manyleb TGAU Cymraeg Iaith yn annog dysgwyr i ddatblygu eu diddordeb a'u brwdfrydedd yn y Gymraeg ac yn eu galluogi i gyfrannu at gymdeithas ddwyieithog.
Y nod yw datblygu eu hyder wrth gyfathrebu'n effeithiol, mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, a datblygu sgiliau hanfodol sy'n diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr ac addysg bellach.
Arbenigwyr Datblygu Proffesiynol yn barod i ateb cwestiynau ar ein holl gyrsiau hyfforddiant
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.
Ceir ystod eang o adnoddau addysgol digidol rhad ac am ddim.
Mae gwaith ymgeiswyr mewn unedau/cydrannau a asesir neu gymedrolir yn fewnol yn cael ei e-gyflwyno i CBAC ar gyfer y pwnc hwn.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Rhowch hwb i'ch addysgu gyda strategaethau Dysgu Cyfunol.
Darganfyddwch fwy yn y fideo isod:
Edrychwch ar ein dewis llawn o adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM!
Datgloi potensial eich dysgwyr gydag ystod drawiadol o adnoddau digidol, offer addysgu a deunyddiau AM DDIM.