TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg - Dysgu o 2025

new_releases
Dysgu Proffesiynol

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.

Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Bydd y cymhwyster TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy:

  • Gefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:
  • datblygu eu dealltwriaeth, eu hempathi a'u gallu i ymateb a chyfryngu'n effeithiol
  • rhyngweithio, archwilio syniadau, mynegi safbwyntiau, gwybodaeth a dealltwriaeth a meithrin perthnasoedd
  • profi ac ymateb i amrywiaeth o lenyddiaeth amrywiol sy’n cynnig mewnwelediad i ddiwylliant, pobl a hanes Cymru yn ogystal â’r byd ehangach
  • tanio dychymyg a chreadigrwydd.

 

Cefnogi'r egwyddorion cynnydd, gan roi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:

  • adeiladu ar eu sgiliau ieithyddol
  • datblygu'n holistaidd o ran eu dealltwriaeth a'u defnydd pwrpasol o ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • cymhwyso eu dealltwriaeth o gysyniadau ieithyddol
  • addasu a thrin iaith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol ag ystod o wahanol gynulleidfaoedd o datblygu sgiliau derbyn, dehongli a mynegi iaith
  • trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau presennol i gyd-destunau newydd gan gynnwys agweddau cymdeithasol a diwylliannol iaith.

 

Cefnogi'r ystyriaethau allweddol ar gyfer datblygiad iaith a dewis llenyddiaeth, gan roi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:

  • profi ysgogiadau perthnasol, cyffrous, dilys a heriol er mwyn ysbrydoli siarad ac ysgrifennu pwrpasol
  • profi cyfoeth o lenyddiaeth
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Adnoddau Digidol

Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM

 

Er mwyn cefnogi ein canolfannau i gyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd, rydym yn falch o gadarnhau y bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn cynhyrchu pecyn o adnoddau dwyieithog RHAD AC AM DDIM ar gyfer pob pwnc. Bydd hyn yn cynnwys 130 o becynnau i ddechrau, sy'n cynnwys adnoddau dysgu cyfunol a threfnwyr gwybodaeth ar gyfer y grŵp cyntaf o gymwysterau a fydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025. 

 

Amserlen cyhoeddi

 

Bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn gweithio'n gyflym i gynhyrchu'r deunyddiau cefnogi newydd hyn. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi fesul cam gan ddechrau o ddiwedd yr hydref 2024, a bydd y gyfres lawn o adnoddau dwyieithog ar gael erbyn Mehefin 2025. 

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

  • Cyrsiau i ddod
  • Cyrsiau ar alw
photo of Manon Maddock
Oes gennych chi gwestiwn?
Manon Maddock ydw i
phone_outline 029 2026 5004
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Sara James
phone_outline 029 2026 5192
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Manon Maddock
Dyddiadau Allweddol
2024
09
Gor
Cyhoeddi Manyleb Ddrafft
30
Medi
Cyhoeddi Manyleb wedi'i chymeradwyo
19
Rhag
Cyhoeddi Deunyddiau Asesu Enghreifftiol