23ain Gwobrau Arloesedd

Athrylith arloesi: dyfeiswyr ifanc Cymru yn serennu yn 23ain seremoni wobrwyo flynyddol CBAC

Mae dyfeiswyr ifanc mwyaf addawol Cymru wedi ennill gwobrau am eu syniadau arloesol yn ein 23ain Gwobrau Arloesedd blynyddol. Cynhaliwyd y seremoni yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 14 Rhagfyr, lle cafodd cyflawniadau egin ddyfeiswyr eu dathlu.

Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, nod ein Gwobrau Arloesedd yw ysbrydoli creadigrwydd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, gan eu hannog i ailfeddwl dyluniadau confensiynol cynhyrchion a gwasanaethau bob dydd. Ar ôl dychweliad buddugoliaethus yn 2022 yn dilyn bwlch o ddwy flynedd, roedd y 23ain seremoni yn arddangos cyfoeth o syniadau dyfeisgar gan feddyliau ifanc talentog.

Roedd y digwyddiad hefyd yn deyrnged addas i etifeddiaeth dyfeiswyr Cymru, gan gydnabod eu cyfraniadau, gan gynnwys creu dyfeisiau arloesol megis y microffon modern, pelydrau X, a thechnoleg radar.

Jasmin Jones, myfyriwr o Ysgol Uwchradd Dinbych oedd yr Enillydd UG a'r Enillydd Cyffredinol am ei dyluniad o wefrydd brwsh dannedd di-wifr. Roedd y beirniaid yn canmol Jasmine am y dyluniad ansawdd uchel a'r sylw i anghenion a chwenychiadau hollbwysig y defnyddwyr.

Dywedodd Jasmin: “Rwyf mor falch fy mod wedi ennill - doeddwn i wir ddim yn disgwyl hynny! Mae cymaint o brojectau anhygoel yma heddiw ac mae wedi bod mor wych cael y cyfle i edrych ar bob un ohonynt. Hoffwn ddiolch i Mr Jones fy athro Dylunio a Thechnoleg, a Mr Williams fy mhennaeth. Rwyf mor ddiolchgar am eu cefnogaeth a'u harweiniad; Ni fyddai wedi bod yn bosibl hebddyn nhw. Mae gennym adran Dylunio a Thechnoleg ragorol yn ein hysgol, sydd wedi cefnogi fy syniadau ac wedi fy ngalluogi i wneud fy ngorau.”

Enillwyr y Gwobrau 2023

Safon Uwch

1af – Sion O’Keeffe, Ysgol Bro Pedr, FretLuminate
2il – Carys Boardman, Ysgol Bryn Elian, Cit Offer Hygyrchedd
3ydd – Tomas Billington, Ysgol Brenin Harri’r VIII Y Fenni, Troli Bwrdd Syrffio                                   

UG

1af – Jasmin Jones, Ysgol Uwchradd Dinbych, Gwefrydd Brwsh Dannedd Di-wifr
2il – Sonny Normansel, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Cloch Drws Adborth Haptig i unigolion trwm eu clyw
3ydd – Rhys Wijeratne, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, System Llywio GPS wedi’i Phweru gan Dynamo

TGAU

1af – Alys Jones, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Dyfais Lleihau Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT) ar Hediadau
2il – Huw Davies, Ysgol Uwchradd Aberteifi, Help Llaw
3ydd – Nanci Edwards, Ysgol Gyfun Trefynwy, Codi Ymwybyddiaeth o Amddiffyn Cefnforoedd

Aeth gwobrau eraill i:

Creadigrwydd – Emily Hay, Coleg Dewi Sant, Gêm Fwrdd Rhyfeddodau’r Byd
Eiddo Deallusol – Finn Channing Davies, Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Cyfarpar Dringo Crimpio
Gwyddoniaeth – Jacob Taylor Chow, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Ailffurfiwr Poteli Plastig

Mae lluniau o'r digwyddiad ar gael i'w gweld yma.

Canmol am eu llwyddiant

Dywedodd Ian Morgan, ein Prif Weithredwr: "Mae'r Gwobrau Arloesedd yn ddigwyddiad rwy'n edrych ymlaen ato bob blwyddyn. Mae'r seremoni yn amlygu pwysigrwydd cydnabod pobl ifanc dalentog yng Nghymru a chydnabod lefel yr ymrwymiad a'r gwaith caled i greu'r cynhyrchion hyn.

"Unwaith eto, rydym wedi rhyfeddu at safon y ceisiadau, ac mae penderfyniadau anodd iawn yn wynebu ein beirniaid. Llongyfarchiadau mawr iawn i bob ymgeisydd, dim ots beth yw'r canlyniad.

"Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cefnogi a meithrin y genhedlaeth nesaf drwy eu cefnogaeth barhaus. Rydym yn deall yn iawn pa mor bwysig yw athrawon, gwarcheidwaid ac aelodau o'r teulu sy'n bresennol bob cam o'r ffordd i gefnogi teithiau creadigol dysgwyr ifanc. Ac, wrth gwrs, diolch yn fawr i Llywodraeth Cymru. Heb eu cefnogaeth gyson, ni fyddem yn gallu cynnal y digwyddiad hwn."

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: "Fel sydd wedi'i nodi yn ein strategaeth arloesi, Cymru'n Arloesi, credwn fod meithrin diwylliant o arloesi yn hollbwysig. Mae'n helpu i ysgogi pobl ifanc i symud ymlaen i brentisiaethau a gyrfaoedd crefftus o ansawdd uchel, felly rwy'n falch ein bod yn parhau i weithio mewn partneriaeth â CBAC i gynnal Gwobrau Arloesedd Cymru.

"Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle anhygoel i agor llygaid pobl ifanc i berthnasedd dylunio a thechnoleg a chaniatáu iddyn nhw gael eu cydnabod am eu harloesedd technolegol. Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol!"

Mewn cydnabyddiaeth o lwyddiant blaenorol, mae sawl dyfeisiwr addawol o Wobrau Arloesedd y llynedd wedi cael yr anrhydedd o gael eu ceisiadau am batentau wedi'u caniatáu gan Swyddfa Eiddo Deallusol y DU ac maent yn aros am batent swyddogol.

Mae Ewan Brough o Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gweithio gyda twrneiod masnach a phatentau Abel + Imray i roi patent ar ei floc cyllyll cegin integredig, ynghyd ag Ellie Penaluna o Ysgol Gyfun Rhydywaun yn Rhondda Cynon Taf, sy'n aros am batent ar gyfer ei gard torri bwyd.

Mewn ymateb i'w llwyddiant, dywedodd Dr Peri Jones, Twrnai Patentau Ewropeaidd i Abel + Imray: "Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag Ellie ac Ewan, i'w haddysgu nhw am batentau a gwerth Eiddo Deallusol. Mae'n ysbrydoledig gweld yr arloesedd sy'n rhan o'r projectau TGAU a Safon Uwch bob dydd, ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi CBAC a Gwobrau Arloesedd CBAC am flynyddoedd lawer i ddod."

I gael gwybod mwy am y gystadleuaeth, ewch i https://www.cbac.co.uk/home/gwobrau-arloesedd/