Cyfleoedd i lunio cymwysterau newydd ar gyfer y dyfodol

Yn dilyn cyfres lwyddiannus o weithdai cwmpasu, rydym yn datblygu ein cymhwyster Sgiliau Gwyrdd cyntaf: Ymwybyddiaeth o Gynaliadwyedd.

 

Cymhwyster wedi’i anelu at unigolion ar ddechrau eu taith cynaliadwyedd yw hwn. Bydd yn:

  • cyflwyno unigolion i ystyr cynaliadwyedd a pham mae wedi dod yn her i gymdeithas
  • cynnwys amrywiaeth o unedau i ddysgwyr ddewis ohonyn nhw
  • seiliedig ar gredydau ac wedi’i lunio i gael ei gyflwyno i ddysgwyr mewn unrhyw leoliad.

 

Ymunwch â’n Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cymwysterau

 

Rydym ar fin dechrau’r broses ddatblygu ac yn chwilio am unigolion i ymuno â’n Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cymwysterau i’n cynghori, ein hysbysu a’n herio wrth i ni symud drwy’r broses datblygu cymwysterau.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel.dodge@wjec.co.uk. Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw 16eg Tachwedd 2023. 

 

Disgwylir i gyfarfod cyntaf pob grŵp gael ei gynnal yn yr wythnos sy'n dechrau ar 4ydd Hydref 2023. Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal rhwng 4pm a 6pm.  

 

Rydym hefyd yn recriwtio datblygwyr ac adolygwyr a fydd yn cefnogi datblygiad cyfres o gymwysterau Cynaliadwyedd Lefel Mynediad CBAC. Gallwch wneud cais yma.