- - Cymwys ar gyfer y Dyfodol: mae CBAC yn barod i ddarparu
- Datblygu cyfres o gymwysterau Sgiliau Gwyrdd
- Cyfrannu at ddiwygio ein cymwysterau lefel 3
- Datblygu cyfres o gymwysterau lled-ddargludydd

Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos ag amrywiol randdeiliaid ledled Cymru i gyd-awduro cyfres newydd o gymwysterau TGAU yn rhan o broject 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol' Cymwysterau Cymru.
Bydd ein dull yn sicrhau bod y cymwysterau newydd yn gynhwysol, yn ysgogol, yn ategu'r cwricwlwm, ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi eu Hadroddiad Penderfyniadau a'u Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer y gyfres newydd o gymwysterau TGAU. Bydd ein Tîm Datblygu Cymwysterau nawr yn ymgysylltu'n weithredol ag amrywiaeth eang o randdeiliaid i greu cymwysterau ysbrydoledig, arloesol a chyffrous i ddysgwyr yng Nghymru.
Yma i'ch cefnogi chi
Byddwn yn cyhoeddi manylebau erbyn mis Medi 2024.
Bydd ein tîm Datblygu Cymwysterau yn darparu diweddariadau rheolaidd drwy gydol y broses, a bydd pecyn o adnoddau addysgu a dysgu dwyieithog a chyfleoedd dysgu proffesiynol yn cael eu datblygu i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn.
Angen mwy o wybodaeth? Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â ni ar datblygucymwysterau@cbac.co.uk.