
Gweithdrefnau ar gyfer dosbarthu tystysgrifau
Bydd eich ysgol neu goleg yn derbyn tystysgrifau arholiadau ymhen 12 wythnos ar ôl cyhoeddi'r canlyniadau. Yna, byddan nhw'n penderfynu ar y ffordd fwyaf priodol o'u dosbarthu nhw i'w myfyrwyr.
Os nad ydych chi wedi cael eich tystysgrif arholiadau, cysylltwch â'ch ysgol neu goleg yn y lle cyntaf. Ond cofiwch, dim ond am un flwyddyn ar ôl y dyddiad dosbarthu y mae'n ofynnol iddyn nhw gadw tystysgrifau heb eu hawlio.
Tystysgrifau Newydd
Cysylltwch â'ch ysgol neu goleg gydag ymholiadau neu am gyngor ynghylch tystysgrifau a roddwyd o fewn y cyfnod o 12 mis.
Cadarnhau Canlyniadau: Llythyr Cadarnhad Electronig
Ar hyn o bryd, darperir cadarnhad o'r cymwysterau ar ffurf Llythyr Cadarnhad Electronig a gaiff ei dderbyn gan y rhan fwyaf o Brifysgolion/Colegau a chyflogwyr yn y DU a thramor. Mae'n cynnwys yr un wybodaeth â'r Datganiad Ardystio Canlyniadau (Tystysgrif Newydd) ond mae ar ffurf llythyr gyda'n logos ac wedi'i lofnodi gan ein Prif Weithredwr a Chadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr. Gellir ei anfon dros e-bost atoch chi ac/neu'n uniongyrchol at drydydd parti (e.e. Prifysgol/Coleg/Cyflogwr) o'ch dewis oddi wrth ein cyfeiriad e-bost ni, er mwyn sicrhau darpariaeth gyflymach.
Cyn i chi wneud cais, sicrhewch fod y gwasanaeth hwn yn bodloni eich gofynion a gofynion y corff sy'n gofyn am gadarnhad o'ch cymwysterau. Os oes angen copi wedi'i argraffu arnoch o'r Datganiad Ardystio Canlyniadau (Tystysgrif Newydd) yn hytrach na'r Llythyr Cadarnhad Electronig, cadarnhewch y cais hwn drwy tystysgrifaunewydd@cbac.co.uk (sylwch ar y gwahaniaeth o ran ffioedd yn ôl yr amlinelliad ar y ffurflen gais).
Gwerthfawrogwn fod eich cais yn un brys. Oherwydd hyn, rydym yn prosesu pob cais yn ôl trefn dyddiad gaeth. Dylech ganiatáu hyd at 6 wythnos i brosesu eich ffurflen gais, ond gwneir pob ymdrech i'w phrosesu cyn gynted â phosibl.
I gael cyngor, cysylltwch â tystysgrifaunewydd@cbac.co.uk Fel arall, ffoniwch 02920 265132. Sylwch y gall ein llinellau ffôn fod yn brysur iawn yn ystod amserau brig felly rydym yn eich annog i gyfathrebu dros e-bost lle y bo'n bosibl. Byddwn yn anelu at gysylltu'n ôl â chi o fewn 24 awr.