Briffio Cymhwyster Newydd: Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch (BSC Uwch) AM DDIM
Mae CBAC yn datblygu cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch Lefel 3 newydd a fydd yn disodli’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch bresennol. Bydd y cymhwyster newydd ar gael i'w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2023.
Bydd y digwyddiad briffio ar-lein 30 munud hwn yn rhoi trosolwg o'r cymhwyster newydd, ei gynnwys a'i strwythur asesu, a sut y bydd y cymhwyster o fudd i ddysgwyr. Cynhelir sesiwn Holi ac Ateb a bydd cyfle i anfon cwestiynau cyn y sesiwn.
Mae’r digwyddiad wedi'i anelu at ddylunwyr cwricwlwm, Cydlynwyr Tystysgrif Her Sgiliau Uwch ac eraill sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y cymhwyster. Bydd y sesiwn yn cael ei arwain gan Reolwr Fframwaith CBAC a Swyddogion Cymorth Rhanbarthol.
Ar ôl cofrestru, anfonir dolen atoch i ymuno â'r Weminar fyw cyn y digwyddiad. Cliciwch ar y dyddiad isod i gadw eich lle.
DYDDIAD |
AMSER |
21 Mehefin 2022 (Saesneg) |
12.30 – 13.00 |
21 Mehefin 2022 (Cymraeg) |
12.30 – 13.00 |
23 Mehefin 2022 (Saesneg) | 15.30 – 16.00 |
23 Mehefin 2022 (Cymraeg) | 15.30 – 16.00 |
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim
- Os yw'ch dewis ddigwyddiad ar gau ar gyfer archebion ar-lein, anfonwch e-bost at y Tîm Dysgu Proffesiynol dpp@cbac.co.uk i gofrestru neu i wneud ymholiad.
- Nodwch y bydd y sesiwn hon yn cael ei recordio.
- Drwy archebu'r digwyddiad hwn, rydych yn cytuno i Delerau ac Amodau CBAC. I weld, ewch i wjec.co.uk/cpd
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i un o'n digwyddiadau ar-lein yn fuan.
Colegau Addysg Bellach
Bydd Cydlynwyr y DHS, Rheolwyr ac Arweinwyr Her mewn colegau AB yn cael cyfle i fynychu digwyddiad briffio yn ystod eu Cyfarfod Rhwydwaith ar 22 Mehefin 2022. Gallwch ofyn am wahoddiad i'r digwyddiad hwn drwy gysylltu â'r Swyddog Cymorth AB, Emma Vincent emma.vincent@wjec.co.uk
Trosolwg o gymhwyster newydd Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
Bydd cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd yn seiliedig ar benderfyniadau allweddol a ddeilliodd o ymgynghoriad Cymwysterau Cymru:
- Bydd y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch bresennol yn cael ei thynnu. Bydd dyfarniad terfynol y cymhwyster yn Haf 2024.
- Bydd cymhwyster Lefel 3 newydd yn cael ei gyflwyno i gymryd lle'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch. Bydd ar gael i ddysgwyr o fis Medi 2023, ac fe’i dyfernir am y tro cyntaf yn Haf 2025.
- Bydd maint a gofynion y cymhwyster newydd yn gywerth â Safon Uwch a bydd yn cael ei raddio A*-E.
- Bydd y cymhwyster newydd ar gael fel cymhwyster annibynnol y gellir ei gymryd ochr yn ochr â chymwysterau cyffredinol a galwedigaethol eraill fel rhan o raglen ddysgu amrywiol.