14 Hyd
Darllen...
Lefel 3 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
Dysgu: Medi 2023
Codau Cyfeirio
Rydym wrthi'n datblygu'r cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch Lefel 3 newydd a fydd yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch o fis Medi 2023.
Bydd y cymhwyster Lefel 3 cyffrous, newydd hwn yn helpu dysgwyr i ddod yn ddinasyddion effeithiol, cyfrifol a gweithgar sy'n barod i gymryd eu lle mewn cymdeithas fyd-eang gynaliadwy ac yn y gweithle.
Drwy gwblhau cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru, bydd y dysgwyr yn:
- datblygu, yn defnyddio ac yn cael eu hasesu ar eu sgiliau Cynllunio a Threfnu; Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau; Creadigrwydd ac Arloesi; ac Effeithiolrwydd Personol (y Sgiliau 'Cyfannol')
- cael cyfleoedd i ddatblygu ymhellach eu sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol (y Sgiliau 'Mewnblanedig')
- dod i werthfawrogi pwysigrwydd y broses o feithrin sgiliau fel agwedd allweddol ar ddysgu gydol oes
- cymryd rhan mewn cyfleoedd gweithredol, creadigol, ac wedi'u harwain gan y dysgwr
- ymholi a meddwl drostynt hwy eu hunain, cynllunio, gwneud dewisiadau a phenderfyniadau, datrys problemau a myfyrio arnynt a'u gwerthuso
- datblygu blaengaredd, annibyniaeth a gwydnwch
- gweithio'n annibynnol, ymgymryd â chyfrifoldebau a gweithio'n effeithiol gydag eraill.
Bydd y fanyleb ddrafft ar gael ym mis Mehefin 2022 a bydd cyfres o ddigwyddiadau briffio ar-lein yn rhoi trosolwg o'r cymhwyster newydd, ei gynnwys a'i strwythur asesu, a sut y bydd y cymhwyster o fudd i ddysgwyr.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar gyfer diweddariadau i dderbyn y dyddiadau pan fyddant yn cael eu rhyddhau.
Briffio Cymhwyster Newydd
Am fwy o wybodaeth ar y sesiwn Briffio Cymhwyster Newydd ar gyfer Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch, cliciwch yma.

Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.