- - Cymerwch ran! Ymunwch â'n Grŵp Cynghori Dysgwyr
- Dewch i gwrdd â'n Tîm Cefnogaeth Rhanbarthol
Dyma gyfle unigryw i chi helpu i lunio'r cymhwyster newydd Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Mae gennym grŵp gwych o ddysgwyr sydd eisoes yn cyfrannu, ymunwch â nhw i ddweud eich dweud!
Beth sy'n ddisgwyliedig gennyf?
Byddwch chi'n ganolog i ddatblygiad y cymhwyster newydd hwn. Bydd disgwyl i chi wneud rhai neu bob un o’r canlynol:
- helpu i nodi'r weledigaeth ar gyfer y cymhwyster,
- profi ein gweledigaeth i sicrhau bod y cymhwyster yn bodloni anghenion dysgwyr,
- cyfrannu gyda meddylfryd sy'n cynnig datrysiadau.
Sawl cyfarfod fydd angen i mi ei fynychu?
Byddwn yn cynnal y cyfarfodydd yn ôl yr angen. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y rhain yn digwydd cyn gynted ag y byddwn yn eu trefnu. Bydd y cyfarfodydd yn digwydd ar ôl ysgol bob amser.
Ble fydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal?
Cynhelir y cyfarfodydd ar-lein dros Microsoft Teams.
Am ba mor hir fydd y cynllun yn digwydd?
Bydd y Grŵp Cynghori Dysgwyr yn weithredol tan fis Gorffennaf 2023. Rydym yn chwilio am ymrwymiad cychwynnol tan fis Gorffennaf 2022.
Pam dylech chi gymryd rhan?
- Byddwch chi'n ymwneud â'r gwaith o lunio dyfodol addysg yng Nghymru.
- Byddwch chi'n defnyddio ac yn datblygu eich sgiliau meddwl yn feirniadol a'ch sgiliau cyfathrebu
- Byddwch chi'n defnyddio eich sgiliau rheoli amser
- Dyma gyfle gwych i ychwanegu at eich datganiad personol ac i gyfeirio ato yn eich cyfweliadau nesaf!
Sut i wneud cais:
- Gwnewch gais drwy ddarllen a llenwi'r ffurflen isod.
- Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Leah Maloney: leah.maloney@wjec.co.uk