Deall Bagloriaeth Cymru
Mae cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn unigryw i Gymru.
Mae'n helpu i baratoi myfyrwyr rhwng 14 a 19 oed ar gyfer y byd gwaith, ar gyfer astudio ymhellach ac ar gyfer bywyd.
Caiff cymhwyster Bagloriaeth Cymru ei ddyfarnu i fyfyriwr drwy gyflawni cyfuniad penodedig o gymwysterau.
Tystysgrif Her Sgiliau, sef cymhwyster arloesol sy'n seiliedig ar sgiliau, sydd wrth wraidd Bagloriaeth Cymru.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch pam y dylai ysgolion a Cholegau AB fabwysiadu Tystysgrif Bagloriaeth Cymru a Her Sgiliau yn gyffredinol.
- Dogfennau Gweinyddol