Datblygu cymwysterau

Sut mae cymwysterau’n cael eu datblygu yng Nghymru?

 

Mae datblygu cymwysterau fel TGAU, Safon Uwch, cymwysterau galwedigaethol a Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru yn broses eang sy'n cynnwys llawer o randdeiliaid pynciau. Mae hyn er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi cyfle i ddysgwyr feithrin y wybodaeth a'r sgiliau i lwyddo.

 

Mae gan Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru (CC) a CBAC rolau a chyfrifoldebau penodol o fewn y broses o ddatblygu cymwysterau yng Nghymru.

 

 

CBAC a datblygu cymwysterau

 

Rheoli datblygu cymwysterau

 

Mae llawer o bobl yn ymwneud â'r gwaith o ddatblygu cymwysterau newydd yn CBAC, gan gynnwys y Tîm Arwain Gweithredol (TAG) a'r Grŵp Rheoli Datblygu Cymwysterau (GRhDC).

 

Nid yw datblygu cymhwyster yn rhywbeth y gellir ei wneud ar wahân. Mae rhan y TAG a'r GRhDC yn sicrhau bod gennym ddull cyson ar draws cymwysterau, lle y bo'n briodol, ac y gellir datblygu unrhyw gymhwyster newydd yn effeithlon, ac y gellir ei asesu'n ddibynadwy ac yn gywir.

 

Pan fydd cymhwyster newydd yn cael ei ddatblygu, y staff sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith yw:

  • cyfarwyddwr cynorthwyol
  • swyddog datblygu cymwysterau
  • swyddog pwnc
  • tîm o arbenigwyr pwnc (athrawon cyfredol fel arfer) a benodir i lunio deunyddiau asesu enghreifftiol ac adnoddau i athrawon a myfyrwyr yn seiliedig ar y fanyleb.

 

Y broses ddatblygu

 

Mae'n rhaid i'r cymwysterau rydym yn eu datblygu fodloni'r holl feini prawf (rheolau) rheoleiddio perthnasol a gyhoeddir gan CC. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn deall pob agwedd ar y meini prawf rheoleiddio sy'n berthnasol i'r cymwysterau hyn.

 

Cyflwynir ein deunyddiau drafft, gan gynnwys y fanyleb a'r deunyddiau asesu enghreifftiol, i'w hadolygu gan CC. Rydym yn gwneud diwygiadau yn ymateb i adborth tan y bydd CC yn fodlon cymeradwyo'r cymhwyster.

 

Rydym yn cydweithio’n agos â CC wrth iddynt ddatblygu'r meini prawf perthnasol gan fod y rhain yn diffinio, nid yn unig natur yr asesiad (e.e. p'un a yw'n cynnwys gwaith cwrs neu'n cael ei asesu drwy arholiadau'n unig), ond hefyd y testunau allweddol y mae'n rhaid i gynnwys y pwnc ymdrin â nhw.

 

Cynhelir gwiriadau sicrhau ansawdd trwyadl drwy gydol y broses o ddatblygu cymwysterau. Rydym hefyd yn ymgysylltu ag arbenigwyr pwnc gan gynnwys athrawon cymwysterau CBAC presennol, i sicrhau bod ein cymwysterau newydd yn diwallu anghenion myfyrwyr yng Nghymru.

Datblygu cymhwyster newydd: y pum cam

Icon for Proposal developed Icon for Rationale and first drafts submitted and reviewed
Datblygu cynnig

Mae CBAC yn cyflwyno cynnig i ddatblygu cymhwyster, a all fod yn ymateb i raglen ddiwygio a gytunwyd neu i alw’r farchnad. Mae'n amlinellu'r angen i ddatblygu'r cymhwyster a'n cynlluniau i ddatblygu deunyddiau asesu enghreifftiol, canllawiau addysgu, adnoddau a digwyddiadau dysgu proffesiynol.
Datblygu sail resymegol, manyleb ddrafft a Deunyddiau Asesu Enghreifftiol

Mae CBAC ac arbenigwyr pwnc, gan gynnwys athrawon, yn llunio manyleb ddrafft a deunyddiau asesu enghreifftiol yn mynd i'r afael â'r meini prawf rheoleiddio gan CC. Mae CBAC yn llunio sail resymegol cymhwyster yn esbonio penderfyniadau a wnaed a sut bydd y cymhwyster yn cael ei strwythuro a'i asesu.

Cyflwyno ac adolygu sail resymegol a drafftiau cyntaf

Mae staff CC a'u harbenigwyr pwnc eu hunain yn derbyn ac yn adolygu ein sail resymegol ynghyd â'r drafft cyntaf o’r deunyddiau.

Adborth a drafftiau pellach

Mae CBAC yn datblygu set wedi'i diweddaru o ddeunyddiau drafft sy'n ystyried yr adborth a gafwyd gan CC ar y drafft cyntaf. Gellir datblygu drafftiau pellach, os oes angen.

Cymeradwyo'r cymwysterau

Pan fydd CC yn cymeradwyo'r fanyleb ddrafft a'r deunyddiau asesu enghreifftiol, byddwn yn eu cyhoeddi ar ein gwefan yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Pa mor hir yw'r broses? 

 

Amserlen i ddatblygu cymhwyster

 

Fel arfer, mae'n cymryd rhwng 18 mis a dwy flynedd, ond gall newidiadau sylweddol, fel yn yr enghraifft isod, gymryd hirach.

 

Gan fod y rhan fwyaf o raglenni dysgu mewn ysgolion a cholegau yn para dwy flynedd, cyfanswm yr amser rhwng trafodaethau cychwynnol â'r rheoleiddiwr a'r dyfarniadau cyntaf yw tua phedair blynedd a hanner, fel arfer:

  • tua 18 mis ar gyfer datblygu cymhwyster,
  • cyhoeddi'r cymhwyster cymeradwy flwyddyn cyn ei addysgu am y tro cyntaf a,
  • bron dwy flynedd o'r adeg y bydd myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau i'r adeg y byddant yn sefyll eu harholiadau.