Cynllun Bwrsari Gareth Pierce

Er cof am ein cyn Brif Weithredwr, lansiwyd Bwrsariaeth Gareth Pierce gennym yn 2022, i gefnogi myfyrwyr israddedig sy'n astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg. 

 

Mae’r cynllun bwrsari yn cefnogi 3 myfyriwr yn flynyddol ac yn cael ei weinyddu gyda chefnogaeth garedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

Anrhydeddu Gareth Pierce

 

Roedd Gareth yn gweithio'n ddiflino i gefnogi dysgwyr o Gymru gyfan drwy gydol ei yrfa. Bu'n gwneud hyn yn ystod ei gyfnod yn CBAC a gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn anffodus, bu farw Gareth yn 2021, a sefydlwyd y bwrsari hwn yn rhodd teilwng i goffau ei amser a’i waith. 

Meini prawf

 

Yn rhan o'r cynllun, mae 3 bwrsari o £3,000 y flwyddyn yn cael eu rhoi i bob myfyriwr sy'n astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg ac sy'n gymwys i gael benthyciad myfyriwr yn seiliedig ar brawf modd. Gan mai grant yw'r arian a dderbynnir, nid yw'n ad-daladwy, gan leihau'r baich ariannol ar fyfyrwyr. Agorodd y cynllun i fyfyrwyr a ddechreuodd eu hastudiaethau o fis Medi 2022 a mae ceisiadau'n cael eu derbyn yn flynyddol.

 

Gwnewch gais

 

Mae manylion pellach am sut bydd y cynllun yn gweithio ar gael drwy wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol