Sut i ymgeisio
Rydym yn derbyn ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Dylai ymgeiswyr roi sylw i'r meini prawf hynod ddymunol a chynnig enghreifftiau clir sy'n dangos eu gallu i fodloni'r meini prawf hynny.
Mae'n ofynnol i'r sawl sy'n gwneud cais lenwi'r ffurflen gais ganlynol:
Ffurflen Gais (PDF)
Ffurflen Gais (Word)
Hefyd, dylid llenwi a chyflwyno'r ffurflen ganlynol gyda'ch ffurflen gais:
Ffurflen Cydraddoldeb a Monitro
Dylid anfon ffurflenni wedi’u llenwi ar e-bost at ad@cbac.co.uk neu eu postio i’r Uned Adnoddau Dynol, CBAC, 245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YX erbyn y dyddiad a bennwyd ar y disgrifiad swydd.
Hysbysiad Preifatrwydd i Ymgeiswyr am Swyddi
Rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac adlewyrchir hynny yn ein 5 Gwerth Craidd:
Ymrwymiad i'r Cwsmer
Gyda dros 65 mlynedd o brofiad yn datblygu, cyflwyno ac asesu, rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau enw da am ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, ac rydym yn awyddus i barhau â'r traddodiad hwn.
Tegwch
Rydym yn sicrhau bod ein cydweithwyr a'n cwsmeriaid yn cael eu gwerthfawrogi a'u trin yn gyfartal, a'u bod yn cael lleisio eu barn a'u parchu.
Arloesi
Rydym drwy'r amser yn edrych am ffyrdd o wella'r hyn a wnawn, yr hyn a gynigiwn a sut y gallwn ychwanegu gwerth.
Gweithio mewn Tîm
Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd tîm cryf sy'n cefnogi ein gweithwyr, sydd yn ei dro yn helpu i gynnal cynhyrchiant a chymhelliant.
Gwerthfawrogi Pobl
Fel sefydliad, rydym yn hyrwyddo gonestrwydd, cydraddoldeb a thegwch er mwyn helpu gweithwyr i gyrraedd eu potensial llawn.
Rydym wedi ymrwymo i gynnig pecyn buddion cystadleuol, sy'n cynnwys:
Gwyliau Blynyddol
Mae ein gweithwyr yn cael 25 diwrnod o wyliau blynyddol, 8 diwrnod gŵyl banc ac rydym yn cau rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Dysgu a Datblygiad
Rydym yn cefnogi ein gweithwyr i fanteisio ar hyfforddiant a chyfleoedd datblygu perthnasol er mwyn cefnogi eu dyheadau gyrfa. Mae'r hyfforddiant yn cynnwys hyfforddiant mewnol a chyrsiau ffurfiol er mwyn i weithwyr ennill cymwysterau proffesiynol.
Pensiwn
Yn unol â rheoliadau Ymrestru Awtomatig, caiff cyflogeion eu hasesu ar ôl iddynt ddechrau gweithio, ac os bodlonir y meini prawf cymhwyso, maent yn cael eu hymrestru ar un o 2 gynllun pensiwn cymwys.
Y cynllun pensiwn rhagosodedig ar gyfer ein cyflogeion yw'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) a bydd y rhan fwyaf o gyflogeion naill ai wedi'u hymrestru'n gytundebol neu'n awtomatig i'r cynllun hwn.
Fodd bynnag, mae nifer o swyddi CBAC sydd wedi'u hymrestru'n gytundebol i'r cynllun Pensiwn Athrawon oherwydd y cyfrifoldebau sydd yn y rôl.
Mae'r ddau gynllun yn gynlluniau pensiwn galwedigaethol â budd-daliadau diffiniedig, treth gymeradwyedig, gyda buddion sy'n cronni dan y rheolau Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi'i Adbrisio (CARE).
Polisïau cyfeillgar i'r teulu
I gefnogi teuluoedd, rydym yn cynnig absenoldeb a thâl hael ar gyfer mamolaeth, tadolaeth, rhieni sy'n rhannu ac ar gyfer mabwysiadu.
Gweithio Hyblyg
Mae ein swyddfeydd ar agor rhwng 7am a 7pm, gan roi hyblygrwydd i'n gweithwyr gyflawni eu 36.5 awr yr wythnos mewn ffordd sy'n bodloni eu hanghenion. Hefyd, rydym yn deall pwysigrwydd cydbwysedd bywyd a gwaith a byddwn yn ystyried pob cais am weithio hyblyg.
Parcio am ddim
Rydym yn cynnig parcio ar y safle yn rhad ac am ddim yn Nhrefforest ac yn Rhodfa'r Gorllewin.