Adolygiad Blynyddol

I ddathlu ein llwyddiannau yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi cyhoeddi ein Hadolygiad Blynyddol. Mae'r cyhoeddiad yn tynnu sylw at y gwaith pwysig sy'n cael ei wneud gan CBAC, mewn partneriaeth agos â rhanddeiliaid ar draws y gymuned addysg, i sicrhau bod dysgwyr Cymru yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial.

 

Mae ein Hadolygiad Blynyddol 2024/25 yn tynnu sylw at ein cynnydd wrth i ni barhau i gydweithio'n agos â'r gymuned addysg i alluogi dysgwyr Cymru i gyrraedd eu llawn botensial.

Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys: 


Llwyddiant cymwysterau Ton 1 Gwneud-i-Gymru:
Taith o gefnogaeth gynhwysfawr - o Ddysgu Proffesiynol wyneb yn wyneb ar draws Cymru i gyfres lawn o Adnoddau digidol addasadwy RHAD AC AM DDIM - gan gynnig popeth sydd ei angen ar athrawon a darlithwyr i gyflwyno'r cymwysterau newydd a chyffrous hyn yn hyderus.  


Cefnogi esblygiad cymwysterau:
Mae gan CBAC dros 75 mlynedd o brofiad o ddylunio a datblygu cymwysterau dibynadwy ar gyfer dysgwyr yng Nghymru - traddodiad sy’n ein gwneud ni’n bartner naturiol ar gyfer y cynnig Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 oed llawn.  


Tu hwnt i'r ystafell ddosbarth
: O ymgysylltu â llunwyr polisïau Cymru i ddathlu yn yr Eisteddfod, rydym yn cysylltu â rhanddeiliaid i ddeall realiti addysg yng Nghymru a chryfhau ein safle wrth galon y gymuned addysg.  

Darllen ein Hadolygiad Blynyddol 2024/25

 

Adolygiadau Blynyddol Blaenorol

 


 

Byddem yn ddiolchgar iawn o'ch adborth, naill ai drwy e-bost neu drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod #CBACAdolygiadBlynyddol

 

Cofrestrwch ar gyfer ein bwletinau e-bost i dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gwaith a dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf.